All posts in “Polisi”

Cyhoeddi adroddiadau ar yr Ymgynghoriad ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drafft

 

Heddiw mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi adroddiad yn crynhoi’r ymateb i’r ymgynghoriad. Mae’n amlinellu dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r 644 o ymatebion a ddaeth i law yn ogystal â’r adborth o’r digwyddiadau rhanbarthol i randdeiliaid a’r digwyddiadau ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a rhieni.  

Gallwch ddarllen yr adroddiad hwnnw, datganiad y Gweinidog, yn ogystal ag adroddiadau eraill ar y digwyddiadau rhanbarthol i randdeiliaid a’r digwyddiadau ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a rhieni yma.

Mae’r ymatebion unigol llawn i’r ymgynghoriad ar gael i’w gweld hefyd. Mae rhai o’r ymatebion yn ddienw lle bo hynny’n briodol.  

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried pa newidiadau y gallai fod angen eu gwneud i’r Cod a’r rheoliadau cysylltiedig arfaethedig, ynghyd â’r diwygiadau i’r Cod Rhan 6 a awgrymwyd gan ymatebwyr. Unwaith y cânt eu cymeradwyo, caiff unrhyw newidiadau a’r rhesymau drostynt eu hesbonio yn y memoranda esboniadol a gaiff eu cyhoeddi gyda’r Cod ADY a’r rheoliadau terfynol, y bwriadwn eu gosod gerbron y Cynulliad i’w cymeradwyo cyn diwedd eleni.

Roedd yr ymatebion yn ddiddorol iawn ac yn codi cwestiynau pwysig iawn, yn enwedig y rhai a oedd yn ymwneud â Cwestiwn 12 Ydy’r esboniad hwn o ADY a roddir ym mharagraffau 7.4 – 7.32 y fersiwn ddrafft o’r Cod ADY yn glir? A chwestiwn 13 – Ydy Pennod 7 y fersiwn ddrafft o’r Cod ADY yn rhoi esboniad clir a chynhwysfawr o’r dystiolaeth a ddylai fod yn sail i benderfyniadau am ADY a DDdY, o ba ffynonellau y gellid coladu’r dystiolaeth hon, a sut y dylid ei hystyried?

O bwys arbennig oedd yr ymatebion i gwestiwn 42 Ydy’r gofynion a osodir ym Mhennod 25 y fersiwn ddrafft o’r Cod ADY ar awdurdodau lleol mewn perthynas â threfniadau i osgoi a datrys anghydfod yn briodol?

Yn gyffredinol, nododd y rheini a atebodd y cwestiwn hwn eu bod yn croesawu unrhyw ddarpariaeth i osgoi a datrys anghytundebau a allai godi.

Fodd bynnag, codwyd pryderon ynghylch ai awdurdod lleol fyddai yn y sefyllfa orau i ddarparu’r gwasanaethau hyn, a chwestiynwyd a fyddai awdurdod lleol yn gallu gweithredu’n gwbl annibynnol neu ddiduedd, a mynegwyd pryderon penodol am hyn yng nghyd-destun pwysau ariannol.

Mae hyn yn adlewyrchu sylwadau tebyg a wnaed gan lawer yng ngweithdai digwyddiadau ymgynghori rhanbarthol Llywodraeth Cymru am gyngor a gwybodaeth, datrys anghytundeb ac eiriolaeth annibynnol. Fe’i gwnaed yn glir gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr mai asiantaethau annibynnol ddylai ddarparu’r trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail anghenion y dysgwr yn hytrach nag ar sail costau.

Roedd sylwadau’r ymatebwyr yn rhannu llawer o gred rhieni a gweithwyr proffesiynol, y dylai’r rhai sy’n cefnogi teuluoedd ac awdurdodau lleol i ddatrys anghytundebau fod yn annibynnol ar yr ALl.  

Y camau nesaf

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi codi nifer fawr o faterion sy’n gofyn am ystyriaeth fanwl nawr i benderfynu pa newidiadau i’w gwneud i’r Cod a’r rheoliadau. Pan fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, y bwriad yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod drafft diwygiedig o’r Cod ADY gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i’w gymeradwyo yn nes ymlaen yn 2019.

Ar yr un pryd, bwriedir gosod amryw o reoliadau gerbron (rhai ohonynt ar ffurf ddrafft) sydd i’w gwneud o dan y Ddeddf, gan gynnwys y rhai yr ymgynghorwyd yn eu cylch fel rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Caiff y memoranda esboniadol a’r asesiadau effaith perthnasol eu cyhoeddi hefyd pan osodir y Cod ADY a’r rheoliadau gerbron. A chymryd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo’r Cod ADY, disgwylir y bydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2019.

Bydd y system ADY newydd yn cael ei rhoi ar waith dros gyfnod o dair blynedd yn dechrau ym mis Medi 2020.

SNAP CYMRU YN ENNILL MARC ANSAWDD AM RAGORIAETH

(Aelodau o staff o’r timau yng Nghaerdydd a Gwent Fwyaf gyda Caroline Rawson, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol.)

Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall i SNAP Cymru, gan i’r sefydliad ennill Marc Ansawdd Arbenigol (SQM) yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol am y trydydd tro yn olynol. Mae’r achrediad yn amlygu ymrwymiad y sefydliad i ofal cleientiaid ac arfer gorau.  

Fel safon sydd ond yn cael ei dyfarnu i sefydliadau sy’n cyrraedd y lefelau uchaf o reoli a gofal cwsmeriaid, bydd sefydliadau ag achrediad SQM yn destun asesiadau annibynnol trylwyr bob tair blynedd. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau gofynnol o ragoriaeth mewn meysydd fel gofal cleifion, rheoli achosion a rheoli risg. 

Mae’r Marc Safon Arbenigol (SQM) yn safon sy’n eiddo i’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA) ac fe’i datblygwyd i helpu i sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu i aelodau’r cyhoedd sydd angen cyngor arbenigol. Caiff yr SQM ei archwilio’n annibynnol gan Recognising Excellence ar ran yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.

Mae SQM yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau a Chwmnïau Cyfreithwyr ddangos eu bod yn cydymffurfio â safonau’r diwydiant ar gyfer rheoli busnes a rheolaeth ariannol yn ogystal â bod â systemau da ar waith i reoli gwaith gyda chleientiaid.  Mae’r safon yn cwmpasu gofal cleientiaid a goruchwyliaeth, mynediad, rhedeg y sefydliad, cynlluniau a materion sefydliadol, yn cynnwys adolygu ffeiliau, diwallu anghenion cleientiaid ac ymrwymiad i ansawdd, cwynion ac adborth.  

Dywedodd Amanda Daniels, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol,

“Bu’n rhaid i ni basio archwiliadau bwrdd gwaith ac yna trefnwyd archwiliadau ar y safle, a oedd yn cynnwys archwilio ein ffeiliau achos, polisïau a gweithdrefnau. Fel gyda’r ddau archwiliad cyntaf, fe wnaethom ni basio’n llwyddiannus! Fe wnaethom ni ddangos, mewn modd cynhwysfawr, bod ein holl systemau yn cyrraedd y safon ofynnol ac mewn sawl maes, eu bod yn well o lawer na’r hyn sy’n ofynnol.

Mae meddu ar yr SQM yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o safon. I gyrraedd y safon, fe aethom ati i wella ein systemau’n barhaus. Mae ansawdd yn bwysig iawn i’n staff a’n gwirfoddolwyr ac maent yn gweithio’n hynod o galed i gynnal y safonau hyn. Mae hyn i gyd yn sicrhau bod gan gleientiaid a chyllidwyr fwy o ffydd ynom”.

 

Dywedodd Denise Inger, y Prif Swyddog Gweithredol; 

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyflawni ein safon SQM am y tair blynedd nesaf a chael ein cydnabod fel sefydliad sy’n rhagori mewn darparu gwasanaethau o safon i deuluoedd ledled Cymru. Darparu’r lefelau uchaf o ofal cleifion i’n teuluoedd yw un o’n gwerthoedd craidd. 

Mae’r achrediad hwn yn brawf o’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon.  Mae’n gydnabyddiaeth ffurfiol o’r modd rydyn ni’n gweithio – y cleientiaid sy’n bwysig i ni ac rydyn ni’n gweithredu er eu lles nhw. Mae hefyd yn adlewyrchu ein systemau a’n prosesau mewnol trylwyr sy’n ein galluogi i fod yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth ddarparu gwasanaethau. Rydyn ni’n buddsoddi mewn pobl ac mewn technoleg newydd, i ddarparu gwasanaeth cywir, effeithlon sy’n werth da am arian”.

Cyfarwyddwraig Cynorthwyol Caroline Rawson ac Amanda Daniels a .)

Swydd wag – Swyddog Teulu a Phobl Ifanc

Swyddog Teuluoedd a Phobl Ifanc – Gwynedd

 14 awr yr wythnos

Cyflog rhwng £ 19,781.56 a £ 21,913.46 (Pro Rata)

Cyflog gwirioneddol rhwng £ 7,912.63 a £ 8,546.73 yn dibynnu ar brofiad

 Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd yn gyfrifol am hyrwyddo partneriaeth rhwng teuluoedd a phobl broffesiynnol ac yn gallu llunio partneriaethau proffesiynnol adeiladol. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau gyda tîm rhanbarthol Gogledd Cymru o staff a gwirfoddolwyr. Bydd yn ofynnol arno feddu ar fedrau partneriaeth, rhwydweithio, rhyngbersonol a gweinyddol da; a sgiliau rheoli amser a blaenoriaethu da er mwyn rheoli baich gwaith uchel. Bydd gwybodaeth o anghenion dysgu ychwanegol/anableddau a/neu brofiad o recriwtio ac arolygu gwirfoddolwyr yn fanteisiol. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy’r Gymraeg yn hanfodol. Mae’n rhaid i ddeilydd y swydd gael mynediad at gar ar gyfer defnydd busnes rheolaidd.

 Dyddiad cau: – Dydd Gwener 6ed o Orffennaf

Cyfweliadau: Dydd Gwener, 13eg o Orffennaf, Caernarfon

 

Am wybodaeth pellach neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Lindsay Brewis ar 07803 018064. I wneud cais am y post Email: recruit@snapcymru.org gan gynnwys CV diweddar a llythyr cais

 

Mae’r swydd hon yn ddarostyngiedig i wiriad Cofnodion Troseddol estynedig. Mae SNAP Cymru’n cydymffurfio’n llwyr gyda Chod Ymarfer y BCT.

Mae SNAP Cymru’n darparu gwybodaeth, cyngor, cynhaliaeth ac eiriolaeth annibynnol ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc. Mae ein timau o staff a gwirfoddolwyr yn hyrwyddo cydraddoldeb, cynnal cynhwysiad ac yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol er mwyn gwella addysg pobl yng Nghymru

 

 

 

Diweddariad ADY – Tachwedd 2017

Mae’r amcan a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gael “system addysg gynhwysol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn seiliedig ar system sy’n hyblyg ac yn ymateb i anghenion cyfnewidiol dysgwyr. Budd yn cael ei chefnogi gan weithlu sydd â’r sgiliau a’r profiad a’r hyder i ddarparu’r system honno’n wirioneddol effeithiol; ac sydd â dealltwriaeth dda o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio eu gwaith i sicrhau bod y strategaethau a’r ymyriadau sy’n cael eu gweithredu ar gyfer dysgwyr wedi eu teilwra i ddiwallu’r anghenion unigol hynny.” Mae’r amcanion yn cynnwys:

  • Ymgorffori Egwyddorion cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion
  • Dyletswyddau’r iaith Gymraeg
  • CDU statudol ar gyfer pob dysgwr ag ADY
  • Awdurdodau lleol i fod yn gyfrifol am leoliadau arbenigol ôl-16
  • Canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar
  • Cydgysylltwyr ADY statudol
  • Cryfhau’r rôl ar gyfer y gwasanaeth iechyd
  • Osgoi anghytundebau a’u datrys yn gynnar

Y bwriad yw darparu dull sy’n canolbwyntio mwy ar unigolion felly byddwch yn clywed llawer am ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolion ac mae mwy o ALl drwy Gymru eisoes wedi cael hyfforddiant yn y maes hwn ac wedi dechrau defnyddio proffiliau un dudalen ac adolygiadau mewn arddull sy’n Canolbwyntio ar Unigolion. Mae Snap Cymru’n teimlo y dylai rhieni a phobl ifanc hefyd gael yr hyfforddiant hwn os ydynt am gymryd rhan yn effeithiol.

Mae Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru’n gonglfaen i’r newid. Mae newid y ddeddfwriaeth yn rhan ganolog o’r hyn y mae LlC yn ei wneud ond ni fydd newid y gyfraith ynddi’i hun yn effeithio ar yr ymarfer a’r newid mewn diwylliant y maent yn gobeithio ei sicrhau.

Mae gan ‘raglen trawsnewid’ LlC sy’n cynnwys cefnogi’r gwaith o weithredu’r newidiadau deddfwriaeth bum elfen:

  • Deddfwriaeth LlC a chanllawiau statudol
  • Datblygu gweithlu
  • Gweithredu/cymorth pontio
  • Codi ymwybyddiaeth
  • Polisi cefnogi

Rhan o hyn yw creu Cod ADY newydd yn lle’r Cod Ymarfer a Rheoliadau AAA presennol y wybodaeth fanwl i helpu i weithredu’r Bil. Bydd gan y Cod newydd ofynion mandadol sydd â’r un grym mewn cyfraith â rheoliadau, yn ogystal ag ymarfer da a chanllawiau y mae’n rhaid i Ysgolion ac ALl ayb eu hystyried. Cyflwynir y Cod newydd a’r rheoliad ar ffurf drafft i ymgynghori arnynt y flwyddyn nesaf. Cadwch lygad amdanynt a manteisiwch ar bob cyfle i ymateb.

Rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru’n paratoi rhaglen datblygu gweithlu gyda thair haen:

  1. Datblygu sgiliau craidd – sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â chefnogi dysgwyr ag ADY fynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth am y ffordd orau i gefnogi dysgwyr ag ADY.
  2. Datblygu sgiliau arbenigol – targedu gwasanaethau cefnogi arbenigol a ddarperir gan awdurdodau lleol, h.y. athrawon ymgynghorol ar gyfer nam ar y clyw, nam ar y golwg neu nam amlsynhwyraidd, seicolegwyr addysg.
  3. Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol – bydd yn cymryd lle’r Cydlynydd AAA presennol a bydd yn swydd statudol. Rhaglen datblygiad proffesiynol ddwys.

Codi ymwybyddiaeth

Mae LlC yn bwriadu ymgysylltu â rhanddeiliaid ynglŷn â beth fydd eu dyletswyddau a’u pwerau newydd o dan y system newydd, ond mae’r ffordd yr ydych yn rhannau’r newidiadau hyn gyda phlant a phobl a theuluoedd yr un mor bwysig er mwyn i chi allu deall y system newydd a sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r newidiadau. Roedd y digwyddiadau ymgysylltu gwreiddiol yn anodd i bawb ond roedd nifer fach o rieni’n bresennol. Nid oedd yr amseru na’r lleoliad yn hwylus i rieni, p’un ai yr oedden nhw’n gofalu am blant neu’n gweithio yn rhywle arall pan gynhaliwyd y sesiynau.

Ble’r ydym nawr….

Cam 1- Ymgynghorodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ddechrau, gan ystyried tystiolaeth ynglŷn â’r Bil fel y’i cyflwynwyd, a chraffu ar y manylion. Roedd 69 o argymhellion gan y pwyllgorau

Yn gyffredinol roedd y rhain yn seiliedig ar

  • Rôl y GIG yn y system newydd.
  • Cael Cynllun Datblygu Unigol mandadol –pan fydd y Cod yn dod i rym bydd yn cynnwys templed safonol y bydd yn rhaid i bob ymarferydd ei ddefnyddio (gweler y ddolen gyswllt â CDU Gwynedd fel enghraifft ar ddiwedd y diweddariad hwn.)
  • Blynyddoedd Cynnar – bydd yn rhaid i ddarparwyr lleoliadau na chynhelir ystyried y Cod newydd a bod gan ALl ‘Swyddog Arweiniol Blynyddoedd Cynnar ADY’.

Cam 2 – ystyriaeth fanwl gan Bwyllgor y Cynulliad o’r Bil linell wrth linell – cwblhawyd gweler yr adroddiad isod.

Cam 3 –  Trafodir y dyddiad cau ar gyfer datblygu a sicrhau cytundeb Gweinidogol a chefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer newidiadau gan fwrw pleidlais ar ddydd Mawrth 21 Tachwedd 2017.

Cydsyniad Brenhinol – yn fwy na thebyg Ionawr 2018

Ymgynghoriad ffurfiol ar y Cod a’r Rheoliadau 2018

Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth Gwanwyn 2019

Gweithredu (yn fwy na thebyg) Medi 2019.

 

Penodi Arweinwyr ADY

Penodwyd tîm bach o arweinwyr trawsnewid ADY a byddant yn cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach a phartneriaid darparu eraill i baratoi ar gyfer a rheoli’r broses o newid i’r system ADY newydd. Hefyd byddant yn gyfrifol am ragasesu parodrwydd yr ALl, hyfforddiant a sicrhau ei fod yn cael ei weithredu yn ardal eu consortia (4 x arweinydd consortia ac 1 arweinydd Addysg Bellach)

Gweithredu

Daeth yr ymgynghoriad ar sut i weithredu’r Bil i ben ddechrau haf 2017. Bydd crynodeb o ymatebion a fydd yn rhoi dadansoddiad o’r sylwadau a gafwyd yn cyfrannu at y ffordd y bydd y Llywodraeth yn penderfynu ar ei ddull gweithredu (heb ei gyhoeddi eto)

Bydd LlC yn rhannu canllaw trawsnewid manwl i gyrff statudol unwaith y bydd Bil wedi cael Cydsyniad Brenhinol.

Yr opsiynau a ystyriwyd :

  • Y dysgwyr sydd eisoes ar ddatganiad fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr i symud i Gynllun Datblygu Unigol.
  • Dysgwyr ar gyfnod pwysig o drawsnewid, felly’r rhai sy’n symud rhwng lleoliadau, rhai sy’n symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, neu o ysgol uwchradd i Addysg Bellach, y dysgwyr ar y mathau hyn o gyfnodau trawsnewid allweddol fydd yn mynd gyntaf

Dolenni cyswllt defnyddiol.

  • Cytunwyd ar 116 o newidiadau hyd yma, a wnaed i’r Bil. Mae fersiwn ddiwygiedig o’r Bil ar gael ar wefan y Cynulliad lle gallwch weld gwybodaeth arall a dilyn cynnydd y Bil:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16496

  • Crynodeb o newidiadau yng Nghrynodeb Cam 2 o newidiadau cam 2 i’r Bil

https://seneddresearch.blog/2017/11/13/new-publication-additional-learning-needs-and-education-tribunal-wales-bill-summary-of-changes-at-Cam-2/

  •  Rhaglen Drawsnewid ALNET LlC

http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/additional-learning-special-educational-needs/transformation-programme/awareness-raising/?skip=1&lang=cy

http://gov.wales/docs/dcells/publications/161221-educational-psychologists-wales-guidance-cy.pdf

Cysylltwch ag amanada.daniels@snapcymru i gael mwy o wybodaeth neu ddefnyddio’r ffurflen gyfeirio ar ein tudalen gysylltu i gael cymorth uniongyrchol.

 

Bill ADY diweddariad

Y stori hyd yn hyn …

Cafodd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)1 (y Bil) ei gyfeirio’r at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (y Pwyllgor) i ystyried yr egwyddorion cyffredinol, yn mis Tachwedd 2016, gan ofyn i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad am ei egwyddorion cyffredinol erbyn Mai 2017.

Cwrddodd y Pwyllgor â llawer o randdeiliaid a chlywed ganddynt, gan gynnwys plant a phobl ifanc ag ADY, a rhieni a gofalwyr y rheini ag ADY wedi eu hwyluso gan SNAP Cymru.  Mae’r pwyllgor wedi cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, er bod y dystiolaeth a gawsant yn amlygu llawer o bryderon ynglŷn â’i roi ar waith.

 

“Ni ddylai neb danbrisio maint yr agenda hon. Mae dros 100,000 o ddisgyblion mewn ysgolion ag AAA neu ADY, sydd dros un o bob pump o’r holl blant.” Lynne Neagle Cadeirydd.

 

Maer Pwyllgor wedi gwneud 48 o argymhellion gyda’r nod o gryfhau nid yn unig y Bil ei hun, ond hefyd y cynigion ehangach ar gyfer diwygio’r system. Maer materion allweddol a ddaeth i’r amlwg a’r argymhellion wedi tanlinelli yn yr adroddiad canlynol

Bydd trafodion y Pwyllgor yn cau ym mis Hydref 2017 yn hwyrach na’r disgwyl yn dilyn pryderon a godwyd gan SNAP Cymru ynghylch agwedd ariannol y Mesur.   Nid yw SNAP Cymru yn cytuno â barn y Llywodraeth y bydd anghydfodau yn cael ei leihau yn awtomatig o ganlyniad i gyflwyno’r mesur. Yn hytrach, gall pryderion ac ansicrwydd arwain at fwy o anghytundebau, yn enwedig yn ystod cyfnod pontio yn y tymor byr. Mae gwaith achos gyda theuluoedd wedi codi o 13% yn y flwyddyn ddiwethaf ac mae nifer y problemau neu faterion a ddygwyd gan deuluoedd i’n gwasanaeth wedi dyblu.

Ymgynghorwyd opsiynau ar gyfer gweithredu’r Mesur o Chwefror-Mehefin 2017 a ddaeth yr ymgynghoriad i ben 45 diwrnod yn ôl.  Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei adolygu a bydd manylion am y canlyniad yr ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law>

Mae’n amlwg y dylai fod cyfnodau gorfodol i sicrhau gweithrediad llwyddiannus y Mesur newydd.  Mae SNAP Cymru yn parhau i fod yn bryderus bod Awdurdodau Lleol yn cyflwyno CDU cyn i’r fframwaith cyfreithiol bod yn ei le.  Os oes gan rieni bryderon, dylent gysylltu â’n llinell gymorth ffôn 08451203730

 

SNAP Cymru – yn cefnogi plant a theuluoedd ers 1986

Yn Rydym yn falch iawn ein bod yn dathlu 30 mlynedd o SNAP Cymru.  Yn bwrw’r agenda cynhwysiant yn ei blaen ar gyfer plant a phobl ifanc ac arloesi gyda dull partneriaeth ar gyfer datrys problemau ym maes addysg.

Llyfryn Dathlu 30 Mlynedd

Ym 1986 fe enillodd elusennau Scope a Mencap grant i sefydlu gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Annibynnol yn ne Cymru. Gwnaed hyn mewn ymateb i’r ffaith bod y sefydliadau hyn yn derbyn nifer fawr o alwadau gan deuluoedd a oedd angen cymorth dybryd arnynt i ddeall y dryswch o asesiadau a darpariaeth ar gyfer anghenion ychwanegol.   Ymhen ychydig flynyddoedd roedd yr elusen, yn gwbl annibynnol ac yn cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolwyr yn ei rhinwedd ei hun.

‘Mae SNAP Cymru’n unigryw i Gymru ac mael eu datrys heb angen am apel…’ ‘Y GORAU I Addysg Arbennig’ Papur Gwyrdd y Swyddfa Gymreig yn son am SNAae’n gweithredu gwasanaeth cefnogi rheini ym mron bob cwr o’r wlad … Golyga ei waith y bu nifer o anghydfodau gP Cymru 

 Adroddiad Y Comisiwn Archwilio yn nodi gwerth a mantais o gymorth Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni(GPR) i deulioedd yng Nghymru Deddf Anabledd o Anghenion (2001) yn gwneud GPR yn statudol a gofyniad ar Awdurdodau Lleol i’w ariannu. 20 ALl yn gomisiynu SNAP Cymru

Wrth i SNAP Cymru dyfu, a lledaenu ar draws Cymru gyfan, fe wnaethom gymryd cyfrifoldeb dros nifer fwy o feysydd gwaith, wrth I anghenion gael eu nodi, yn cynnwys: Datrys Anghytundebau; Eiriolaeth Plant; Gwahaniaethu ac Apeliadau. Drwy hyn, rhoddwyd hyfforddiant achrededig a dulliau rheoli ansawdd ar waith i gynorthwyo ein staff, gwirfoddolwyr ac eraill i wella’r gwasanaeth a gynigiwyd ar bob lefel. Yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf rydym yn ymfalchïo ein bod wedi cynorthwyo 70,000 o deuluoedd ac wedi helpu i ddatrys 150,000 o faterion.

30 o flynyddoedd ers hynny, mae teuluoedd yn dweud wrthym bod angen yr ystod hon o wasanaethau arnynt fwy nag erioed o’r blaen. Roedd hyn yn amlwg o’r nifer enfawr o deuluoedd a oedd yn defnyddio ein gwasanaethau. P’un a ydynt yn rhieni sy’n ceisio ymrafael â chymhlethdodau gwneud cais am asesiad neu blentyn sydd angen cymorth gan eiriolwr oherwydd bwlio, mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn derbyn y materion ac yn ceisio eu datrys gyda phob parti perthnasol.

 “Mae SNAP Cymru’n cynnig gwasnaeth amhrisiadwy i deuluoedd wrth eu cynorthwyo i dderbyn yr addysg a’r gefnogaeth y mae eu plant ei angen ac y mae ganddynt hawl iddo. Meant yn rym effeithiol a grymus yn y gwaith o lobio i wella bywydau eu miloedd o gleientiaid. Pen a baent yn bodoli yna byddai’n rhiad i rywun eu dyfeisio.”  Peter Black AC, Aelod Cynulliad dros Dde Orllewin Cymru

Mae llawer wedi newid er gwell, wrth i’r agenda gynhwysiant ddatblygu. Mae yna fynyddoedd i’w dringo o hyd, ond wrth i ni edrych yn ôl, gall pob un ohonom ymfalchïo yn yr hyn mae SNAP wedi’i gyflawni gyda rhieni a phartneriaid. Mae ein gweledigaeth yn parhau yn glir ac rydym yn parhau i hyrwyddo newid er mwyn gwella polisi, arfer a darpariaeth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

 “Rydym wedi bod a pherthynas hirsefydlog gyda SNAP Cymru ac rydym yn gwerthfawogi’n fawr iawn yr heriau y maent yn eu gosod i’n polisiau a’n harferion. Trwy’r her yma teimlwn bod ein gwasanathau ar gyfer AAA wedi gwella.”

Sharon Davies, Rheolwr Mynediad I Ddysg, AALl Abertawe

“Dylem gofio bod angen i rieni dderbyn yr holl wybodaeth sydd ar gael fel y gallant wneud penderfyniadau adeiladol, sydd wedi eu seilio ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael. Rwy’n dal i ryfeddu at y rol y mae SNAP yn ei chwarae wrth gefnogi rhieni trwy gydol y cyfnod hwn, sy’n aml iawn yn adeg pryderus.” 

Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau 2000-2007

Rydym yn bresennol ar ambell i stryd fawr erbyn hyn, yn ailgylchu dillad ac eitemau diddorol drwy ein siopau elusen arddull boutique. Yma rydym yn denu gwirfoddolwyr lleol ac yn croesawu cymunedau lleol i brofi cynhesrwydd teulu SNAP Cymru a chael gwybodaeth am sut y gallwn ni eu helpu a sut y gallant hwy helpu eraill.

Mae SNAP Cymru, yn diolch i’n teuluoedd a’n pobl ifanc, ein gwirfoddolwyr, ein staff, ein noddwyr a’r holl weithwyr proffesiynol sy’n ein croesawu i’w gwasanaethau. Mae cyfnod newydd a chyffrous o’n blaenau er mwyn cyflawni anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc. Byddwn yn cyflwyno 30 mlynedd o brofiad ac ymroddiad i’r cyfnod newydd hwn ac edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd i ddathlu ein carreg filltir nesaf.

 

 

Mae gofal a chymorth yng Nghymru yn newid

O fis Ebrill, bydd gennych fwy o lais yn y ffordd y mae eich gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu rhedeg.

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ar 6 Ebrill.

Dyma’r gyfraith newydd ar gyfer gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu a’r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Bydd gan bobl mwy o lais yn y math o ofal a chymorth y byddant yn eu cael.

Mae’n hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau’r angen am gymorth ffurfiol, wedi’i gynllunio.

  • Bydd gwasanaethau ar gael i roi’r cymorth iawn, ar yr amser iawn
  • Bydd mwy o wybodaeth a chyngor ar gael
  • Bydd yr asesu yn symlach ac yn fwy cymesur
  • Bydd gan ofalwyr yr un hawliau i gael eu hasesu am gymorth â rheini y byddant yn rhoi gofal iddynt
  • Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

 

Asesiad Gofalwyr

Mae’r Deddf yn gosod dyletswyddau ar cynghorau lleol yng Nghymru i asesi anghenion gofalwyr sydd yn darpary gofal i blant anabl.

Bydd gan ofalwyr yr un hawliau â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a bydd gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.

Bydd proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a’r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Bydd yr asesiad yn fwy syml a bydd modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau.

Bydd mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i’r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi.

Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod hefyd yn cael eu cyflwyno.

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Byddwch yn dilyn y broses newydd yn eich asesiad nesaf.

Nid oes uchafswm nac isafswm oedran i gael cydnabyddiaeth fel gofalwr.

Cewch eich cydnabod fel gofalwr heb orfod profi eich fod yn darparu swm sylweddol o ofal yn rheolaidd.

Os yw’r asesiad yn cadarnhau bod gan ofalwr ‘anghenion cymwys’, mae ganddynt hawl i gael cynllun cymorth personol sy’n nodi beth fydd yr awdurdod lleol yn ei wneud i ddiwallu’r anghenion.

 

Plant ag anghenion gofal a chymorth

Maer Deddf yn effeithio ar y ffordd bydd plant anabl yn cael ei asesi. O fewn y deddf bydd pob plentyn Mewn Angen (anabl) yn gymwys i gael asesiad gofal cymdeithasol ac bydd rhagdybiaeth bod angen cymorth a gofal ir plant yma.

Fe fydd yr asesiad yn gofyn am beth sydd yn bwysig ir plentyn wrth benderfynu beth sydd angen arnynt i sicrhau ei llesiant.

Os ywr plenty mewn addysg neu hyfforddiant byddent yn cael cymorth i aros nes byddent yn 25 oed

Bydd Cynghorau Lleol yn gallu cyfuno asesiad i blant ag asesiad gofalwr os ydy’n fuddiol i wneud hynny.

 

Am wybodaeth pellach:

http://gov.wales/topics/health/socialcare/act/?skip=1&lang=cy

Te prynhawn arbennig yn Nhy’r Arglwyddi – hyrwyddo pwysigrwydd y defnydd o’r Gymraeg oddi mewn i’r Trydydd Sector

” Ar ran Comisiynydd y Gymraeg a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, gwahoddodd y Farwnes Grey-Thompson DBE SNAP Cymru i De Prynhawn yn Ystafell a Theras Cholmondeley, Tŷ’r Arglwyddi, San Steffan. Cynrychiolodd Huw Roberts, Ymddiriedolwr a Phencampwr Y Gymraeg, a Rhys Wyn Parri, Swyddog Teuluoedd a Phobl Ifanc, SNAP Cymru’n y digwyddiad a gynhaliwyd ar Ionawr 21ain, 2016.

Diben y digwyddiad oedd hyrwyddo pwysigrwydd y defnydd o’r Gymraeg oddi mewn i’r Trydydd Sector.

Cafwyd anerchiadau gan Meri Huws, Comisiynydd Y Gymraeg, Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Lynda Thomas, Prif Weithredwr Macmillan, ac yna sesiwn cwestiwn ac ateb. Gydag offer cyfieithu ar gael, braf oedd clywed Y Gymraeg yn diasbedain oddi ar y barwydydd Tŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:

“Am y tro cyntaf mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Gall pobl, beth bynnag fo’u hoed, cefndir neu ardal, ddisgwyl cael yr hawliau i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r trydydd sector yn chwarae rôl cynyddol bwysig wrth gynnig gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir mewn meysydd fel gofal, eiriolaeth a chyngor lle mae cyfathrebu’n iaith yr unigolyn yn rhan mor greiddiol o’r gwasanaeth, a hefyd mewn cyd-destunau cymdeithasol fel chwaraeon a chlybiau ar ôl ysgol lle mae cyfle i ddefnyddio’r iaith mewn amgylchiadau llai ffurfiol a hwyliog.

Yn ychwanegol dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru’n falch o fod yn bartner yn y digwyddiad hwn yn Nhŷ’r Arglwyddi. Bydd y digwyddiad yn llwyfan ar gyfer trafod pwysigrwydd y Gymraeg i waith y trydydd sector, a byddwn yn rhoi sylw arbennig i rôl gwirfoddolwyr yn hyn o beth.

“Drwy wirfoddoli, gall sefydliadau roi cyfle i bobl gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu ymarfer eu sgiliau a gwella eu hyder a’u rhuglder yn yr iaith mewn sefyllfa anffurfiol.”

Rydym ni yn SNAP Cymru yn falch o fod wedi cwblhau ein cynllun gweithredu ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg a byddwn yn parhau i wneud gwelliannau’n gysylltiedig â’n darpariaeth Gymraeg sydd eisoes yn cynnwys gwybodaeth a chyngor annibynnol yn Gymraeg drwy ein Llinell gymorth, gwaith achos , gwefan a ddaflenni gwybodaeth.

http://www.snapcymru.org/wp-content/uploads/2015/09/Welsh-Language-Scheme-W.pdf

Ar ddiwedd y digwyddiad, cyfarfu Huw a Rhys â’r Barwn Wigley o Gaernarfon yn Sir Gwynedd, a fu garediced a’u cyflwyno i ogonogeddau Plas San Steffan, neu o leiaf i’r bar.”

Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol/Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (drafft)

Mae’r cyfnod ymgynghori arBil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn dal ar agor. Mae fersiwn ddrafft y Bil yn nodi’r cynigion ar gyfer sefydlu system ddeddfwriaethol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol . Byddem yn annog unrhyw un sydd a diddordeb mewn canlyniadau da i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgiadol ychwanegol i ymateb i’r dogfennau hyn. Bydd SNAP Cymru yn cynnal cyfarfodydd ymgynhori gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc dros yr wythnosau nesaf. Cyflwynwch eich sylwadau personal erbyn Rhagfyr 18 2015. Byddai’r system newydd yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig, ac asesu plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu, mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Yn dilyn cyhoeddi Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ar 6 Gorffennaf, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi heddiw Ddatganiad Gweinidogol cysylltiedig sydd ar wefan Llywodraeth Cymru

Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad:

 Mae’r Bil drafft yn cynnig Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i’w ddefnyddio ar draws yr ystod oedran 0-25 oed, ar draws asiantaethau ac ar draws lleoliadau addysgol. Y bwriad yw y byddai’r Cod newydd yn gosod gofynion gorfodol o dan rai amgylchiadau yn ogystal â rhoi canllawiau ymarferol ynghylch sut y disgwyliwn i’r dyletswyddau statudol gael eu cyflawni.

Fy nymuniad yw bod y rhai sy’n ymateb i’r ymgynghoriad ar y Bil drafft yn cael gweld gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol iddynt wrth ffurfio barn ynghylch ei ddarpariaethau a’i effaith ymarferol. Mae’n dda gennyf gyhoeddi heddiw felly fod drafft gwaith cychwynnol ar gyfer Cod ADY arfaethedig wedi’i gyhoeddi bellach.Yn ogystal â’r Cod drafft, rwyf hefyd wedi cyhoeddi heddiw amlinelliad o’r amserlenni posibl i weithredu’r system sydd wedi’i hamlinellu yn y Bil drafft.

Mae’r dogfennau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar ffurf drafft gwaith ac at ddibenion eglurhaol yn unig er mwyn ategu’r ymgynghoriad ynghylch y Bil drafft.

Dymuniad y Gweinidog yw gweld y dogfennau drafft hyn yn cael eu defnyddio’n sail ar gyfer ymgysylltu pellach rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol ac eraill er mwyn datblygu ymhellach y Cod ac er mwyn ystyried  ymhellach y cynlluniau ar gyfer ei weithredu. Rhagwelir y bydd fersiwn fwy datblygedig o’r Cod drafft yn cael ei chyhoeddi ar yr un adeg ag y bydd Bil yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Cod drafft a’r cynllun gweithredu drafft ar gael yn awr ar wefan Llywodraeth Cymru

 

 Diwedd y cyfnod ymgynghori: 18/12/2015

 

Llwyddiant Gwirvol

‘… Drwy wirfoddoli gyda SNAP rwyf wedi ennill mwy o hyder yn y gwaithle ac ac wedi fy berswadio i fynd yn ôl i fyd addysg. Rwyf newydd wedi ymuno ar gwrs prifysgol agored I astudio seicoleg.’

Dros y flwyddyn diwethaf mae SNAP Cymru wedi bod yn rhan o gyfle cyffrous gyda GwirVol – cynllun Cymru gyfan, sy’n cael ei arwain gan farn pobl ifanc, gan annog mwy o bobl ifanc yng Nghymru i gymryd rhan yn eu cymunedau drwy wirfoddoli. Nod y prosiect a gefnogir gan WCVA ydy ceisio cynyddu nifer ac amrywiaeth y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli yng Nghymru a chynyddu nifer a hygyrchedd cyfleoedd gwirfoddoli o safon i bobl ifanc yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gorau o’u profiad gwirfoddoli.

Mae SNAP wastad wedi bod â diddordeb mewn recriwtio pobl ifanc i fynd i’r arferiad o wirfoddoli ac maent yn ei weld fel ffordd wych o wella’u sgiliau a’u cyfleoedd gan gefnogi ein gwasanaeth ar yr un pryd. Fel sefydliad, rydym yn falch o’n gwirfoddolwyr a heb fod yn fwy felly na phan gawsom gydnabyddiaeth am eu cyfraniad pan enillom Wobr Brenhines Elisabeth yr 2il am waith gwirfoddol.

Hyd yma rydym wedi recriwtio dim llai na 35 o bobl ifanc fel gwirfoddolwyr, gan ragori ar ein ffigur gwreiddiol. Mae’n wych gweld cynifer o bobl ifanc yn cymryd rhan ac fe hoffem eu croesawu i’r tîm.

Mae’r llysgenhadon ifanc gwych hyn wedi bod yn brysur dros ben ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, maent wedi dylunio a chreu taflenni, posteri, ac animeiddiadau i gyfrannu at wasanaeth Portage Ynys Môn, pwyntiau gwybodaeth cymunedol a thudalen Facebook SNAP. Fe wnaethant hefyd greu adnoddau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu gweithwyr Portage ac i gael eu rhannu gyda theuluoedd. Mae rhai o’r gwirfoddolwyr ifanc hefyd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant AAA ychwanegol ac wedi rhoi gwybodaeth i deuluoedd am y gwasanaethau sydd ar gael ac wedi pasio atgyfeiriadau ymlaen i’r gwasanaeth gwaith achosion fel y bo’n briodol.

Mae’r rhaglen a ariennir gan WCVA wedi caniatáu i SNAP Cymru weithio gydag ysgol Uwchradd Caergybi i gael 13 o Wirfoddolwyr Ifanc ym mlwyddyn 10 i gymryd rhan mewn sesiynau Parch Ymwybyddiaeth o Anabledd, cwblhau portffolios ar gyfer achredu, mentora disgyblion eraill yn yr ysgol a dosbarthu taflenni gwybodaeth a phosteri Wmff! yn y pwyntiau gwybodaeth y maent wedi’u nodi ar draws y sir.

‘…hefo gwirfoddoli gyda chi yn Snap Cymru, mae o di agor llgada fi o pa swydd swni licio gwneud arol gadael y prifysgol.’

Dewisodd 9 o bobl ifanc SNAP Cymru fel eu lleoliad profiad gwaith ar gyfer blwyddyn 11 neu flwyddyn 12. Dewisodd y rhan fwyaf i helpu staff yn y gwasanaeth Portage i ddysgu am adnoddau iaith a’u creu. Fe wnaeth 1 fwynhau cyfieithu dogfennau o’r Saesneg i’r Gymraeg, ynghyd ag ysgrifennu adolygiad am Wefan ac ap Wmff. Mae 1 ferch ifanc artistig, gan ddefnyddio’i meddalwedd animeiddio ei hun, wedi bod yn gweithio i greu animeiddiad ar gyfer gwefan SNAP Cymru a darluniau ar gyfer proffiliau un dudalen a ddefnyddir yn y gwasanaeth Portage. Mae’r ferch ifanc hon hefyd wedi creu’r delweddau ar gyfer cyfres o daflenni ar gyfer pobl ifanc ar eiriolaeth, hawl y plentyn i apelio a gwneud hawliadau yn erbyn TAAAC ynghyd â thaflen i blant.

Dewisodd 2 o bobl ifanc SNAP Cymru fel eu lleoliad tra yn y brifysgol (roedd 1 yn astudio astudiaethau plentyndod a’r llall waith cymunedol ac ieuenctid). Fe wnaethant weithio i ddisgwyliadau penodol ar leoliad ac ar ôl sesiynau hyfforddi a chynefino roeddent yn gallu cynrychioli SNAP mewn digwyddiadau, cynorthwyo gyda chyfraniadau rhieni, helpu’r gwasanaeth llinell gymorth, cynllunio a chyd-ddarparu hyfforddiant a gweithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol).

Daeth 1 person ifanc i wirfoddoli am 3 mis fel rhan o ddyfarniad cyflogadwyedd Bangor, sy’n drefniant dewisol rhwng blwyddyn 2 a 3 yn y brifysgol. Unwaith eto, fe wnaeth y ferch ifanc hon amlinellu’r hyn yr oedd eisiau ei ddysgu a chael profiad ohono ac mae wedi helpu gydag ysgrifennu mapiau taith, cwblhau arolygon cau achosion a chefnogi’r gwasanaeth llinell gymorth. Mae’r ferch ifanc hon wedi cael ei hysbrydoli ar ôl gwirfoddoli gyda SNAP i ddilyn gyrfa waith ym maes cymorth i deuluoedd.

Daeth 10 o bobl ifanc oedd eisoes wedi’u cyflogi neu’n chwilio am waith i SNAP, ar gynllun cyflogaeth. Fe wnaethant ddefnyddio SNAP fel cyfle i ennill achrediadau a phrofiad pellach mewn naill ai ymwybyddiaeth o anabledd neu gymorth busnes a gweinyddu. Mae’r grŵp hwn o wirfoddolwyr ers hynny wedi parhau fel gwirfoddolwyr cyswllt cymunedol gweithredol yn cynnal pwyntiau gwybodaeth cymunedol ac yn lledaenu gwybodaeth am SNAP Cymru. Mae 1 wedi parhau i wirfoddoli ychydig o weithiau’r wythnos yn helpu gyda dyletswyddau gweinyddol ac yn rheoli pwyntiau gwybodaeth cymunedol.

‘Croeso tad! Mai wedi bod yn bleser gweithio gyda chi gyd!Diolch yn fawr am bob dim. Dwi’n gobeithio byddaf yn nol yn gwyliau y Nadolig.’

Drwyddi draw, mae’r rhaglen anhygoel hon wedi bod o fudd i lawer o bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol neu a all fod neu mewn perygl o fod yn NEET a’u teuluoedd a fydd yn derbyn gwybodaeth a help gan ein gwirfoddolwyr ifanc.

Drwy’r llysgenhadon ifanc yn lledaenu’r neges drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd siaradwyr Cymraeg ifanc yn cael gwybod am Wmff ac yn dysgu sut i’w ddefnyddio.

Nod Wmff! ydy annog pobl ifanc i chwilio am gefnogaeth a chyngor ar gyfer nhw’u hunain ac mae’n ymdrin â nifer o feysydd allweddol a nodwyd fel rhai pwysig yn eu bywydau. Mae’r meysydd a gynhwysir yn cynnwys bwlio, gwaharddiadau, mynd yn ôl i fyd addysg, dod o hyd i waith a hawliau pobl ifanc.

Mae gan SNAP Cymru enw da am ddarparu gwasanaethau i deuluoedd sy’n agored i niwed, gan helpu plant, pobl ifanc a rhieni i gyfranogi mewn cynllunio a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Rydym yn gweithio’n lleol gydag unigolion a theuluoedd i’w cynorthwyo i gael darpariaeth briodol i wasanaethau gan gynnwys addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Wrth gwrs, mae manteision prosiect Gwirvol WCVA yn ymestyn y tu hwnt i’r gwirfoddolwyr ifanc ac mae’n cael effaith lesol ar weithwyr proffesiynol (sy’n gweithio gyda theuluoedd) a’r economi leol. Mae gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant achrededig a phrofiad a fydd yn eu cynorthwyo i gael gwaith i’r dyfodol. Gall yr hyfforddiant achrededig ar lefel 2 fod yn sail i gymwysterau eraill a hefyd fod yn rhan o lwybr cynnydd a, drwy hyrwyddo’r prosiect, bydd y gymuned leol yn elwa o fwy o ymwybyddiaeth o werth gwirfoddoli gyda’r cyhoedd. Bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn gweithgareddau gwirfoddoli yn enwedig ymysg pobl ifanc.

Os gwyddoch am unrhyw bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer SNAP Cymru, edrychwch ar ein tudalennau gwirfoddoli lle gallwch weld amlinelliad o rolau a phroffiliau gwahanol rhai o’n gwirfoddolwyr ifanc.

gwirvol thankyou note