Mae ein gwefan newydd

Mae ein gwefan newydd

Ers 1986, mae Snap Cymru wedi bod yn esblygu ac yn datblygu’n barhaus i gyd-fynd ag anghenion teuluoedd a phlant, ac nid yw ein datblygiad diweddaraf yn wahanol.

Credwn y gall gwybodaeth o ansawdd da helpu plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i wybod beth i’w ddisgwyl ac i wneud penderfyniadau gwybodus.

Darparodd SNAP Cymru gyngor a chynhaliaeth anghenion addysgol arbennig, ddibynadwy, diduedd ac annibynnol i deuluoedd.

Mae SNAP Cymru’n wastad yn archwilio sut y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell a mwy hygyrch ar gyfer mwy o deuluoedd ledled Cymru.

Yn ganolog i hyn yw’n cred y dylai teuluoedd sy’n siarad Cymraeg allu derbyn gwasanaethau a chyngor yn yr iaith o’u dewis hwynt.

Felly, wedi misoedd o waith, ‘rydym yn hynod gyffrous i fod wedi datblygu gwefan ddwyieithog newydd sbon i gynorthwyo teuluoedd a’r rhai sy’n eu cynnal.

  • Mae’n safle newydd yn gyforiog o wybodaeth.
  • Ynghyd â gwybodaeth amdanom ni a sut y gallwch ymuno â ni drwy wirfoddoli, bydd y wefan newydd yn cynnwys gwybodaeth i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol ynghylch:
  • sut y bydd plant yn symud i’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) rhwng Medi 2021 ac Awst 2022, yn cyflwyno’r System ADY newydd,
  • yn amlinellu pa wahaniaeth y mae’n ei wneud i blant, eu rhieni a phobl ifanc;
  • yn disgrifio rôl gyfreithiol Cynlluniau Datblygu Unigol
  • yn esbonio’r ffordd newydd o weithio, gan gynnwys hawliau a’r broses datrys anghytundebau

yn nodi pryd a sut y bydd plant a phobl ifanc yn symud i’r system newydd fesul cam dros y 3 blynedd nesaf o dan y cyfnod

*

cyfnod “Tros y blynyddol, gwelsom y tanseiliwyd hyder rhieni yn y gyfundrefn anghenion dysgy ychwanegol gan gyfathrebu aneglur a diffyg gwybodaeth fanwl. Gyda’r newidiadauir system ADY a’r gyfraith mae’r galw am ein cymorth arbenigol yn uwch nag erioed, sy’n gwneud mynediad i wybodaeth gynnar o ansawdd yn bwysicach fyth. Rydym wrth ein bodd ac yn hyderus y bydd ein gwefan newydd yn ffynhonnell gwybodaeth ddibynadwy a diduedd i deuluoedd ledled Cymru”

Amanda Daniels , Cyd-brif swyddog gweithredol