Ei Huchelder Brenhinol, y Frenhines Elizabeth II (1926-2022)

Roedd hi’n drist iawn gan dîm SNAP Cymru i glywed am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II yr wythnos diwethaf. Rydyn ni i gyd yn cydymdeimlo â’i theulu, a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y newyddion trist hwn.

Yn sicr, un o’n cyflawniadau mwyaf balch fel sefydliad oedd pan gawsom Wobr Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines ar gyfer Gwirfoddoli yn 2012. Roeddem wrth ein bodd yn derbyn y wobr hon, ac yn arbennig o falch mai ni oedd yr unig elusen yng Nghymru i fod wedi cyflawni hyn. Cawsom y fraint o gwrdd ag Ei Huchelder Brenhinol, y Frenhines Elizabeth II ac Ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Phillip Dug Caeredin tra’n derbyn y wobr hefyd. Byddwn yn edrych yn ôl ar y llwyddiant hwn gyda balchder mawr.

Rydyn ni’n ymuno â’r genedl i alaru am golli Brenhines anhygoel, gan hefyd ddathlu ei bywyd, ei gwasanaeth a’i llwyddiannau. 

Rydyn ni’n cefnogi Ei Uchelder Brenhinol, y Brenin Charles III wrth iddo gychwyn ar ei daith fel Brenin.

Bydd SNAP Cymru ar gau ddydd Llun 19 Medi, ar ddiwrnod angladd y Frenhines.