Siopa ar-lein a chefnogi SNAP Cymru AM DDIM!

Siopa ar-lein a chefnogi SNAP Cymru AM DDIM!

Ydych chi’n siopa ar-lein? Beth am gefnogi SNAP heb gostio ceiniog i chi?

Rydyn ni wedi cofrestru ar gyfer Amazon Smile ac Easyfundraising.

AmazonSmile

Beth yw e?

Beth yw e? Gwefan siopa sy’n cael ei rhedeg gan Amazon. Wrth siopa ar y wefan hon, bydd AmazonSmile Foundation yn cyfrannu 0.5% o’r pris gwerthu i SNAP os byddwch chi wedi cofrestru ac yn prynu cynnyrch cymwys. Byddwch chi’n cael cynnig yr un cynnyrch a’r un prisiau ar wefan AmazonSmile (Smile.Amazon.co.uk) ag ar Amazon.co.uk

Sut galla i sicrhau bod y cyfraniadau’n cael eu gwneud yn awtomatig?

Er mwyn i SNAP dderbyn cyfraniadau pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth, bydd angen i chi wneud y canlynol:

Os ydych chi’n siopa ar eich gliniadur, gwnewch yn siŵr eich bod yn siopa drwy smile.amazon.co.uk a bydd Amazon yn cyfrannu’n awtomatig i SNAP bob tro y byddwch yn prynu rhywbeth.

  1. Cofrestru eich cyfrif gydag Amazon Smile a dewis SNAP Cymru fel eich elusen.
  2. Bydd hefyd angen i chi fynd i’ch ap i ysgogi eich dyfais – gallwch wneud hyn drwy
    • fynd i’r ap Amazon a theipio ‘Amazon Smile’ yn y bar chwilio
    • Dylai’r canlyniad ar y brig arddangos y Logo Amazon Smile gyda’r geiriau ‘AmazonSmile – You shop. Amazon gives.’. Cliciwch ar hwnnw
    • Galluogwch yr hysbysiadau

Rydych chi’n barod i ddechrau siopa! Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi pryd bydd angen i chi adnewyddu eich Amazon Smile – fydd dim rhaid i chi dalu ceiniog am wneud hynny!

EasyFundraising

Beth yw e?

Mae Easyfundraising yn wefan sy’n cyfrannu at achosion da wrth i chi siopa – heb ddim cost i chi. Sut? Ewch i rai o’ch hoff siopau ar y we drwy gyfrwng ein gwefan a siopa fel arfer. Yna, pan fyddwch chi wedi prynu rhywbeth, bydd y siop yn gwneud cyfraniad bach i’ch elusen i ddweud “diolch”.

Sut ydw i’n cofrestru i gefnogi SNAP Cymru drwy EasyFundraising?

Dilynwch ein dolen i greu cyfrif:

SNAP Cymru Codi Arian | EasyFundraising

Pan fyddwch chi’n siopa ar-lein, ewch drwy’r wefan Easyfundraising i sicrhau ein bod yn cael cyfraniad!

A dyna ni! Cofiwch eu gosod ar eich holl ddyfeisiau a soniwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu sut y gallan nhw gefnogi SNAP am ddim hefyd!