All posts in “Polisi”

Mae’r system anghenion addysgol arbennig yn newid!

Mae’r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau yng Nghymru yn newid.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system newydd, symlach a mwy ymatebol o ddiwallu anghenion plant gydag anghenion  addysgol neu anableddau arbennig.  Mae’r system newydd yn rhoi’r dysgwr wrth galon  popeth sy’n digwydd. Bydd y cyfnod gweithredu yn digwydd yn raddol dros y blynyddoedd  nesaf.

Bydd y gwaith o weithredu’r system ADY ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn digwydd mewn trefn benodol.

Mis Medi ymlaen

Mae hyn yn golygu y bydd plant sydd newydd gael eu hadnabod fel plant ag anghenion dysgu ychwanegol (hynny yw, y rhai sydd heb gael eu hadnabod eisoes fel plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA), neu rai nad ydynt yn aros am asesiad AAA nac wrthi’n ymgymryd ag asesiad o’r fath), yn symud i’r system ADY newydd o fis Medi 2021 ymlaen.

 

Ionawr 2022 ymlaen

Fodd bynnag, ar gyfer y plant hynny sy’n mynychu ysgol a gynhelir (gan gynnwys Uned Cyfeirio Disgyblion) ac sydd eisoes wedi’u hadnabod fel plant ag AAA drwy brosesau Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, bydd y system newydd yn gymwys o 1 Ionawr 2022 ymlaen, yn hytrach nag o 1 Medi 2021 ymlaen.

 

Hoffwn godi ymwybyddiaeth o’r negeseuon allweddol sy’n ymwneud â’r newidiadau hyn a’r hyn y maent yn ei olygu i chi.

Prif Negeseuon:

  • Bydd y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael ei ddefnyddio yn lle’r termau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac Anawsterau ac Anableddau Dysgu (AAD). Dim ond pan fydd angen rhoi Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) i gefnogi ei addysg y bydd plentyn yn cael ei nodi fel ADY.
  • Bydd Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig bellach yn cael eu galw’n Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Bydd y cod newydd yn cynnwys plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. Mae hynny’n golygu y bydd blynyddoedd cynnar, colegau addysg bellach a cholegau annibynnol arbenigol pellach nawr yn cael eu cynnwys hefyd (ond nid addysg uwch na phrentisiaethau.)
  • Bydd pwyslais ar ddyheadau uchel a chanlyniadau gwell ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag ADY.
  • Bydd system raddoledig o weithredu blynyddoedd cynnar, gweithredu blynyddoedd cynnar a mwy a datganiadau yn diflannu, a bydd pob plentyn sydd ag ADY yn derbyn Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Bydd y CDU yn cymryd lle pob cynllun unigol arall. Bydd y CDU ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.
  • Bydd system raddoledig gweithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy a datganiadau yn diflannu, a bydd pob plentyn sydd ag ADY yn derbyn Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Bydd y CDU yn cymryd lle Cynlluniau Addysg Unigol (CAU), Cynlluniau Ymddygiad Unigol (CYU) neu Gynlluniau Chwarae Unigol (CChU.)
  • Bydd y mwyafrif o Gynlluniau Datblygu Unigol yn cael eu cynnal gan yr ysgol, ond pan ystyrir ei bod yn afresymol i’r ysgol wneud hynny, mae’n bosibl y bydd yr Awdurdod Lleol yn eu cynnal nhw.
  • Bydd mwy o gyfle i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr gyfrannu at y broses o greu a chynnal Cynlluniau Datblygu Unigol drwy gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Y gobaith yw y dylai cydweithredu agosach a chydweithio mewn partneriaeth helpu i osgoi anghytundebau.
  • Bydd pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau darpariaeth yn y Gymraeg os oes angen.
  • Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc sydd â Chynllun Datblygu Unigol hawl cyfartal i apelio i’r Tribiwnlys.

 

Bydd SNAP Cymru yn rannu gwybodaeth bellach gyda chi a rhoi sicrwydd am y rhaglen drawsnewid ym mhis Hydref.

Os hoffech ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Swydd wag: Cefnogwr Cymraeg Rheng Flaen y Llinell Gymorth

Mae modd gweithio yn ein swyddfa yng Nghaernarfon, Abertawe, Hengoed neu Gaerdydd

 

Oriau   20

14.00-18.00 dydd Llun i ddydd Gwener:

 

£17,835.26 pro rata yn seiliedig ar wythnos 35 awr

 

Prif bwrpas:    Grymuso teuluoedd a phobl ifanc drwy:

 

  • Ateb galwadau gan deuluoedd a phobl ifanc
  • Cofnodi gwybodaeth yn gywir
  • Archwilio pryderon y rheini sy’n ffonio
  • Cyfeirio neu atgyfeirio at y cam priodol nesaf
  • Ffonio rhieni i drefnu apwyntiadau
  • Gweinyddu cyffredinol

Swydd wag – Teuluoedd a Phobl Ifanc – Caerdydd

Swyddog Teuluoedd a Phobl Ifanc – Caerdydd

 35  awr yr wythnos – Parhaol

Cyflog cychwyn:  £23,026.75  

Dyddiad cau: Medi 10 fed

Cyfweliadau: Medi 21fed (Caerdydd)

Mae’r rôl ar hyn o bryd yn gymysgedd o gweithio yn y cartref a’r swyddfa.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd yn gyfrifol am hyrwyddo partneriaeth rhwng teuluoedd a phobl broffesiynnol ac yn gallu llunio partneriaethau proffesiynnol adeiladol.  Bydd yn ofynnol arno feddu ar fedrau partneriaeth, rhwydweithio, rhyngbersonol a gweinyddol da; a sgiliau rheoli amser a blaenoriaethu da er mwyn rheoli baich gwaith uchel. Bydd gwybodaeth o anghenion dysgu ychwanegol/anableddau a/neu brofiad o recriwtio ac arolygu gwirfoddolwyr yn fanteisiol.

Am wybodaeth pellach neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Caroline Rawson 07813159235 neu caroline.rawson@snapcymru.org.

I wneud cais am y post Email: vacancies@snapcymru.org  gan gynnwys CV diweddar a llythyr cais

Mae SNAP Cymru’n darparu gwybodaeth, cyngor, cynhaliaeth ac eiriolaeth annibynnol ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc. Mae ein timau o staff a gwirfoddolwyr yn hyrwyddo cydraddoldeb, cynnal cynhwysiad ac yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol er mwyn gwella addysg pobl yng Nghymru

Disgrifiad Swydd

Teitl y swydd: Swyddog Teuluoedd a Phobl Ifanc
Band cyflog: Pump (5) i Chwech (6)
Yn atebol i: Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Prif bwrpas: Grymuso teuluoedd a phobl ifanc drwy wneud y canlynol:

  • Rhannu gwybodaeth
  •  Dylanwadu
  • Hyfforddi
  • Gwaith achos

Prif dasgau:

  • Mentora staff/gwirfoddolwyr prosiect sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc a theuluoedd
  •  Gwaith achos cymhleth, gan gynnwys eirioli
  •  Llinell gymorth
  •  Recriwtio gwirfoddolwyr
  • Cynrychiolaeth – dylanwadu ar strategaethau lleol a rhanbarthol
  • Monitro casglu data ar gyfer prosesau adrodd yn ôl
  •  Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg
  •  Datrys anghytuno ffurfiol
  •  Cynrychiolaeth mewn tribiwnlysoedd
  •  Rheolaeth linell ar staff a gwirfoddolwyr prosiect fel sy’n briodol
  •  Dirprwyo ar gyfer staff eraill (gan gynnwys uwch staff) yn ôl yr angen
    Gallu teithio ledled Cymru a mynediad da i drafnidiaeth

Manyleb y Person

Agwedd:

  • Dealltwriaeth ac ymrwymiad corfforedig i waith a phwrpas SNAP Cymru
  • Dulliau hyblyg o ddatrys problemau
  • Empathi gyda theuluoedd a phobl ifanc
  • Gwrando’n astud ar safbwyntiau pobl eraill i ddod o hyd i dir cyffredin
  • Adlewyrchu’n arwain at welliant parhaus
  • Safonau:
  • Addysg gyffredinol dda neu uwch
  • Cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar rhagorol
  • Dealltwriaeth ariannol o reoli cyllidebau
  • Gallu dehongli gwybodaeth ariannol ranbarthol a mesur y risg mewn dogfennau
  • Parch at staff eraill, gwirfoddolwyr, teuluoedd a phobl ifanc
  • Cadw at bolisïau a gweithdrefnau SNAP Cymru a deddfwriaeth a chyfarwyddyd cenedlaethol
  • Sgiliau:
  • Cyfweld er mwyn cymell
  • Microsoft work PowerPoint ac Excel
  • Gweithio Allweddol
  • Ymchwil, dehongli data a dadansoddi
  • Systemau monitro
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Cefnogaeth dros y ffôn
  • Datblygu staff a gwirfoddolwyr
  • Gwybodaeth:
  • Gwybodaeth ddiweddar am ddeddfwriaeth a chyfarwyddyd sy’n effeithio ar SNAP
  • Cymru
  • Gallu a phenderfyniad i geisio gwybodaeth ddiweddar

Mae gallu yn y Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Bliss, Iaith Arwyddion Prydain a Total Communication, yn ddymunol ar gyfer pob swydd ledled Cymru.

Mae’r swydd hon yn ddarostyngiedig i wiriad Cofnodion Troseddol estynedig. Mae SNAP Cymru’n cydymffurfio’n llwyr gyda Chod Ymarfer y BCT.

Arwydd o gydnabyddiaeth i wirfoddolwyr

Mae SNAP Cymru unwaith eto wedi cyflawni safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, i gydnabod ei arfer da wrth weithio gyda gwirfoddolwyr.

“Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr IVV a mor falch o deulu SNAP Cymru a’n gwirfoddolwyr eithriadol.  Rydym yn dîm gwych ac yn credu’n gryf bod pawb, gyda’i gilydd, yn cyflawni mwy”

Donna Morgan a Teresa Bradley Cydlynydd Gwirfoddoli a Rheolwyr Gwasanaethau

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw safon ansawdd y Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn eu gwaith.   Mae’n anelu at wella ansawdd profiad gwirfoddoli i wirfoddolwyr ac annog mudiadau i gydnabod yn well y cyfraniad enfawr a wneir gan wirfoddolwyr.  Rheolir Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru gan  Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Mae tua 70 o fudiadau yng Nghymru wedi cyflawni Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr hyd yma, ac mae SNAP Cymru wedi adnewyddu’r dyfarniad (sy’n ddilys am 3 blynedd) sawl tro .   Aseswyd SNAP Cymru yn erbyn ystod o safonau ymarfer da a phrofwyd ei allu ym mhob agwedd ar weithio gyda’i wirfoddolwyr.

“Mae cyflawni’r achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr unwaith eto yn wych. Mae’r broses achredu yn ein cadw ar flaenau ein bysedd traed a’n diweddaru. Mae’n helpu i nodi sut y gallwn barhau i wella a datblygu’r ffordd rydym yn cefnogi ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr mewn amrywiaeth o rolau a gweithgareddau.

Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad SNAP Cymru i arfer gorau’r sector ac yn helpu i gydnabod y gwaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ym mhob rhan o’n sefydliad ac yn y gymuned leol. Rwy’n falch iawn o’n staff a’r holl wirfoddolwyr, dyma eu llwyddiant”

Caroline Rawson CEO & Volunteer Lead

Cyfarchion yr Ŵyl gan SNAP Cymru!

Hoffem ddiolch yn fawr i’n holl deuluoedd, partneriaid a gwirfoddolwyr y Nadolig hwn!

Er gwaethaf anawsterau 2020, rydym yn falch o fod wedi parhau â’n gwasanaethau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy gydol y flwyddyn.

Rydym yn deall y bydd y gwyliau fymryn yn wahanol eleni, ond gobeithio y cewch chi Nadolig hyfryd a heddychlon, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Flwyddyn Newydd.

Rydym yn obeithiol y bydd 2021 yn flwyddyn well o lawer i bob un ohonom!

Mae ein swyddfeydd ar gau o 24 Rhagfyr ymlaen, ac maent yn ailagor ar 4 Ionawr.

Sut mae eich adborth a’ch gwaith codi arian yn ein helpu

Mae SNAP Cymru yn bodoli i wneud Cymru’n wlad lle mae plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall. Rydym yn darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor i filoedd o deuluoedd bob blwyddyn, fel teulu Kian, Kayah a Gabriella

Stori Gabriella

Annwyl SNAP Cymru
Rwyf yn ysgrifennu atoch i ddiolch i SNAP Cymru yn y dyddiau anarferol hyn, am eich holl ofal a’ch cefnogaeth. Mae wedi bod yn help gwirioneddol imi ac a dweud y gwir wn i ddim beth fuaswn wedi’i wneud hebddo.

Pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn byw drwy bandemig? Nid oeddem yn ei ddisgwyl nac wedi paratoi ar ei gyfer, ac mae wedi bod yn ddychrynllyd ac mae ei effaith emosiynol arnom wedi bod yn fawr. Rwyf wedi bod yn arbennig o bryderus gan imi ddod yn fam newydd yn fuan iawn cyn y cyfyngiadau symud.

Fodd bynnag, mae SNAP Cymru wedi fy helpu i deimlo nad wyf ar fy mhen fy hun, gan gynnig pa bynnag help oedd ei angen arnaf a phan oedd hynny’n bosibl. Anfonwyd pecyn gweithgarwch gwych ataf i gadw fy mab Kian yn brysur, ac i’w helpu i ddeall yn well ei deimladau am y sefyllfa rydym yn ei chanol. Mae’n datblygu i fod yn frawd mawr gwerth chweil i’w chwaer fach Kayah ac rwy’n teimlo bod dysgu siarad am ei emosiynau wedi ei helpu. Roedd y pecyn yn argymell technegau na fuaswn i erioed wedi meddwl amdanynt.

Cyn y pandemig roedd fy mab yn arddangos ymddygiad anodd yn yr ysgol. Dywedodd pennaeth yr ysgol honno nad oedd fy mab yn addas ar gyfer ei ysgol. Fel rhiant roeddwn yn teimlo bod angen imi ei symud i ysgol wahanol. Cafodd ei symud i ysgol wahanol ond ni fu newid yn ei ymddygiad. Bûm yn chwilio ym mhobman am help a soniodd fy Ymwelydd Iechyd wrthyf am SNAP Cymru. Mi gefais help gan SNAP Cymru cyn ac ym mhob cyfarfod, ac roedd hynny mor werthfawr.

Roedd menyw o’r enw Teresa yn gwybod popeth am y gweithdrefnau a sut y gallai’r ysgol helpu fy mab i wneud cynnydd. Hebddi hi, mi fuaswn wedi bod ar goll yn lân. Roeddwn yn edmygu ei holl wybodaeth a sut y byddai’n gofyn cwestiynau i mi a staff yr ysgol ac yna’n edrych ar ba opsiynau oedd ar gael inni. Roeddwn i angen SNAP Cymru ac mi wn y byddaf eu hangen yn fwy fyth yn y dyfodol wrth inni orfod wynebu’r ‘normal newydd.’

Heb arian, ni fyddai SNAP Cymru mewn sefyllfa i helpu rhieni fel fi i wynebu sefyllfaoedd anodd. Wyddwn i ddim byd am fy hawliau fel rhiant nac am hawliau fy mab na pha help sydd ar gael iddo. Maent yn bobl weithgar, broffesiynol ac maent yn gwneud eu gwaith mor dda. Diolch SNAP Cymru am bopeth rydych yn ei wneud ac wedi ei wneud i mi a fy nheulu bach.
Yn gywir,

Miss Gabriella Elliott



Rydym wrth ein bod yn clywed gan ein teuluoedd. Os hoffech chi helpu mwy o bobl fel Gabriella a Kian, cysylltwch â ni yn headoffice@snapcymru.org neu dilynwch y botymau isod i weld sut y gallwch wirfoddoli neu godi arian i ni.

Mi hoffwn godi arian i SNAP Cymru

Mi hoffwn wirfoddoli â SNAP Cymru



Cynnwys cysylltiedig

Rhywbeth i bawb

Mae rheswm pawb dros wirfoddoli’n wahanol, o gwrdd pobl i ddysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth. Daw ein gwirfoddolwyr o bob math o gefndiroedd ac mae gennym amrywiaeth o rolau at ddant pawb.Os hoffech chi wirfoddoli â ni, cwblhewch ac anfonwch y ffurflen gais, neu am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen gwirfoddoli

Darllenwch ragor am sut mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn y Canolbarth yn helpu SNAP Cymru i helpu ein teuluoedd.storïau gwirfoddolwyr

Cynllun Wrth Gefn Covid 19 SNAP Cymru

Newidiadau i’n gwasanaethau

Bydd SNAP Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig Coronafeirws ac yn adolygu hyn yn ddyddiol yn dilyn cyngor a chyhoeddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd y rhan fwyaf o’n swyddfeydd ynghau gan ein bod yn dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Llywodraeth ar hunanynysu a gweithio o gartref i warchod staff risg uchel a chyfrannu at yr ymdrech i arafu’r gyfradd drosglwyddo. 

Mae gennym system atgyfeirio ddiogel ar ein gwefan a bydd y llinell gymorth yn parhau i weithio fel arfer, ac felly hefyd holl wasanaethau SNAP Cymru.

Mae gan ein sefydliad adnoddau digonol ac mae wedi datblygu systemau TG rhagorol i alluogi gweithio o bell i’n holl staff a gwirfoddolwyr.

Mae ein CMS yn y cwmwl ac mae wedi’i ddiogelu i safonau harbwr diogel ac mae gan ein staff ffonau clyfar a gliniaduron i barhau i ddarparu gwasanaethau. 

Mae ein holl staff wedi cael hyfforddiant diogelu data ac maent yn ymwybodol o’n polisïau Gweithio Unigol a Gweithio o Gartref.

Mi allwn gynnig cyngor, cymorth a gwaith achos dros y ffôn, drwy ddulliau electronig ac, os yw’n ddiogel i wneud hynny, wyneb yn wyneb. Drwy gydol yr argyfwng hwn bydd staff a gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau i helpu teuluoedd agored i niwed ochr yn ochr â’n cydweithwyr statudol a thrydydd sector, gan rannu gwybodaeth, adnoddau ac arbenigedd.

Mae gennym fewnrwyd sy’n cynnwys llyfrgell o wybodaeth y gellir ei rhannu â staff, gweithwyr proffesiynol a theuluoedd.

Mae ein tîm TG yn defnyddio pob dull posibl i fanteisio ar gyfleusterau cynadledda fideo a rhannu ffeiliau drwy Microsoft Teams ac ati.

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â’n Hawdurdodau Lleol ac â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac yn ymateb i’w cynlluniau wrth gefn hwythau.

Mae gwasanaethau wyneb yn wyneb rheng flaen wedi’u cyfyngu’n fawr ar hyn o bryd, ond mi all SNAP Cymru barhau i helpu pobl drwy nifer o ffyrdd

  • Mae gennym linell gymorth bwrpasol sy’n cael ei staffio bob dydd rhwng 9.30 a 4.30. Mae’n defnyddio system rota gyda’n holl staff yng Nghymru ac maent yn cael eu helpu gan dîm o wirfoddolwyr.
  • Mae gan bob aelod o staff ffonau clyfar a gliniaduron. Mae ein staff yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’u cleientiaid i leihau straen a phryder.
  • Rydym yn darparu cyngor ac adnoddau hunan gymorth a thempledi i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn ogystal â mynediad at ein gwefan o adnoddau a chyfeiriadau ar arferion da a chyngor drwy ein tudalen Facebook
  • Mae ein staff gwaith allweddol yn cadw cofnod o alwadau ffôn yn eu calendr Outlook yn yr un ffordd ag y byddent yn ei wneud ag ymweliadau i sicrhau ein bod yn cadw mewn cysylltiad â phob teulu.

Ymateb yn achos pryderon difrifol ynglŷn â phobl yn ein llwyth achosion

Bydd ein Staff yn adolygu eu hachosion am bryderon difrifol ac yn rhoi gwybod i Reolwyr Llinell am bryderon yn unol â’n gweithdrefnau diogelu arferol. Bydd unrhyw deuluoedd y mae ein Swyddogion yn credu a allai fod yn agored iawn i niwed yn dod i sylw’r AD i gael help ychwanegol.

Ein cynllun wrth gefn os bydd lefelau staffio’n gostwng yn sylweddol

Mae gennym dîm Cymru gyfan a gwirfoddolwyr lleol a all ddarparu cyngor a chymorth drwy’r llinell gymorth. Bydd rhywfaint o ddarpariaeth wyneb yn wyneb/cyfarfodydd hanfodol yn digwydd yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus.

Llwybrau ymadael ar gyfer rhai sydd angen help ond na allwn barhau i weithio â hwy

  • Mae gan staff ddeunyddiau hunan gymorth i’w rhannu â theuluoedd yn uniongyrchol a thrwy gyfryngau cymdeithasol. Bydd copïau caled ar gael i deuluoedd heb ddefnydd o ffôn symudol a/neu argraffydd.
  • Rydym yn trefnu bod gennym weithwyr achos gwahanol os bydd angen e.e. oherwydd salwch staff.
  • Rydym hefyd am sicrhau bod pobl yn cael eu galluogi i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth felly mi fyddwn yn rhannu cyhoeddiadau pwysig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gyfryngau cymdeithasol a thrafodaethau un i un.

Help y gallai SNAP Cymru ei ddarparu yn yr ymateb ehangach i’r argyfwng

  • Bydd SNAP Cymru yn hyblyg, yn edrych i’r dyfodol ac yn ymateb i anghenion teuluoedd ym mhob Awdurdod Lleol. Bydd uwch staff yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol arweiniol i ymateb i ymdrechion cydlynus i ddiwallu anghenion lleol.
  • Byddwn yn ceisio cael cyllid ar gyfer adnoddau ymarferol i deuluoedd ac o bosibl i dalu i ymestyn y gwasanaethau ffôn a gynigir gennym i wrando, helpu a chynnig cyngor priodol.  
  • Gan fod y rhan fwyaf o ysgolion a lleoliadau addysg wedi cau ar hyn o bryd mi fyddwn yn cynnig awgrymiadau i deuluoedd i’w helpu i ddelio â straen a gorbryder y gallant ei brofi ac rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar ddiogelu. Bydd clust i wrando o rywle y gall pobl ddibynnu arno yn helpu i leddfu peth o’r pryder a’r straen.
  • Lle mae prosiectau’n helpu teuluoedd drwy Weithio Allweddol Blynyddoedd Cynnar mae SNAP Cymru yn cynnig awgrymiadau ar reoli ymddygiad a gorbryder a hefyd help ymarferol wrth gwblhau ceisiadau am fudd-daliadau a gwaith papur arall.
  • Mae rota dyddiadur yn cael ei gynnal i gadw mewn cysylltiad agos â theuluoedd.
  • Bydd staff a gwirfoddolwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu drwy gydol yr argyfwng, o fewn y canllawiau iechyd cyhoeddus.

Canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais

Mae’r canllawiau hyn yn darparu cyngor ac yn gosod disgwyliadau mewn perthynas â chymorth i ddysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais ar gyfer amrywiaeth o senarios i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau (sy’n cynnwys canolfannau dysgu a dysgu seiliedig ar waith), ynghyd ag ymarferwyr ac asiantaethau partner

At ddiben y canllawiau hyn, mae diffiniad eang o ddysgwr sy’n agored i niwed a dan anfantais wedi’i fabwysiadu. Mae’n cynnwys dysgwyr sydd yn un neu fwy o’r grwpiau canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:

  • dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) 
  • dysgwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig sydd â Chymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol (CIY/SIY)
  •  plant sydd â phrofiad o ofal, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal 
  •  dysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)
  •  plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches 
  •  plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  •  dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  •  gofalwyr ifanc
  •  plant sy’n wynebu risg o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod

Mae’r canllawiau yn ategu’r rhai a geir yn y Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref a’r Canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref. Felly, dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r fersiynau diweddaraf o’r canllawiau gweithredol a’r canllawiau dysgu.

Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth fanwl am baratoadau o fis Medi 2020, gan gynnwys canllawiau gweithredol a gwybodaeth am baratoi ar gyfer dull dysgu pellach wedi’i gloi neu ei gymysgu pe bai angen gwneud hynny.

Anghenion Addysgol Arbennig

Yn wahanol i Loegr, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â defnyddio pwerau brys i newid y gyfraith ar anghenion addysgol arbennig yng Nghymru er mwyn llacio dyletswyddau statudol awdurdodau lleol mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig (AAA).

Nid yw dyletswyddau statudol awdurdodau lleol, mewn perthynas ag AAA yng Nghymru, wedi newid.

Mae dyletswyddau awdurdodau lleol sy’n deillio o Ddeddf Addysg 1996 a Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 mewn grym o hyd, ac mae Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002 yn dal i fod yn gymwys.   Mae’r Cod yn canolbwyntio ar ddileu rhwystrau i gyfranogiad a dysgu. Mae’n rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac eraill ar gyflawni eu dyletswyddau statudol i nodi ac asesu anghenion addysgol arbennig dysgwyr, a darparu ar eu cyfer.  

Datganiadau AAA

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd o hyd i drefnu’r ddarpariaeth addysgol arbennig a nodir yn datganiadau AAA.  

Mae’n rhaid i anghenion dysgwyr sydd â datganiadau AAA barhau i gael eu diwallu.

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff y ddarpariaeth addysgol arbennig a nodir yn y datganiad ei bodloni gan yr ysgol neu’r lleoliad.

Mae’n bosibl bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, megis therapyddion lleferydd ac iaith, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol, wedi bod yn defnyddio Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru yn hytrach na chyfarfod â chleientiaid wyneb yn wyneb yn ystod y cyfyngiadau symud. 

Fodd bynnag, dylai’r cymorth hwn allu cael ei ddarparu wyneb yn wyneb eto o fis Medi 2020 yn amodol ar asesiad risg priodol. Gall ysgol neu leoliad y dysgwr ddarparu gwybodaeth benodol am gynorthwywyr addysgu/cymorth a therapyddion sydd ar gael.  

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau barhau i sicrhau bod anghenion unigol dysgwyr yn cael eu hystyried yn llawn.  

Wrth benderfynu ar gamau dilynol priodol, gan gynnwys cyngor, cymorth ac arweiniad, anghenion dysgwyr unigol fydd y brif ystyriaeth o hyd.  Mae’n rhaid i ddarpariaeth fod yn seiliedig ar anghenion unigol hefyd.  Nid yw’n briodol defnyddio polisïau cyffredinol.

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau sicrhau nad ydynt yn atal ymweliadau gan weithwyr proffesiynol a allai fod yn fuddiol i ddysgwyr sydd ag AAA. Gallai gwneud hynny dorri dyletswyddau AAA statudol.

Mae disgwyliad clir y dylai gwasanaethau i ddysgwyr sydd ag AAA gael eu cynnal.  

Adolygu’r datganiad AAA

Nid yw’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu datganiadau AAA wedi newid. Caiff datganiadau AAA eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.

Y broses ar gyfer cynnal asesiadau statudol o AAA

Mae dyletswyddau awdurdodau lleol ac ysgolion a lleoliadau mewn perthynas ag asesiadau statudol ar waith o hyd ynghyd â’r amserlenni.

Dysgwyr sydd â chynlluniau datblygu unigol neu gynlluniau addysg unigol a darpariaeth addysgol arbennig

Nid yw’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd, sy’n cynnwys llunio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn grym eto. Mae rhai awdurdodau lleol ac ysgolion a lleoliadau wedi dechrau defnyddio cynlluniau datblygu unigol, ond nid yw’r gofynion statudol sy’n ymwneud â nhw yn gymwys eto. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol wedi llunio cynlluniau datblygu unigol gyda chytundeb rhieni/gofalwyr. 

Os nad oes gan ddysgwyr datganiadau AAA, dylai fod ganddynt gynllun addysg unigol.    Dylai cynlluniau addysg unigol a chynlluniau datblygu unigol amlinellu anghenion y dysgwr a pha gamau y dylai’r ysgol eu cymryd i ddiwallu’r anghenion hynny.   Mae’n rhaid i gorff llywodraethu ysgol brif ffrwd a gynhelir wneud pob ymdrech i sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol arbennig sy’n ofynnol ar gyfer dysgwr sydd ag AAA

Darpariaeth seibiant i ddysgwyr sydd ag AAA

Mae enghreifftiau lle mae ysgolion a lleoliadau arbennig a gynhelir wedi cynyddu ac ehangu eu darpariaeth seibiant. Mae’n bwysig bod yr awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth glir am argaeledd darpariaeth seibiant yn ystod y cyfnod hwn.

Hawl i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch AAA

Mae gan rieni/gofalwyr a dysgwyr yr un hawl i apelio o hyd. Yn y lle cyntaf, dylai rhieni/gofalwyr geisio datrys pryderon yn uniongyrchol gyda’r ysgol a/neu’r awdurdod lleol. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer gwasanaethau partneriaeth rhieni. Mae’r rhain yn rhoi cyngor a gwybodaeth i rieni/gofalwyr mewn perthynas ag AAA. Yn ogystal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer gwasanaethau osgoi a datrys anghytundeb a gwasanaethau eirioli annibynnol. Dylai rhieni/gofalwyr wybod am y rhain. Gall rhieni/gofalwyr a dysgwyr sydd â hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) apelio o hyd             

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) 

Mae’n ymdrin ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau penodol am blentyn a pherson ifanc a’i addysg. Mae hefyd yn ymdrin â honiadau o wahaniaethu a thriniaeth annheg mewn ysgol yn ymwneud ag anabledd.  

Nid yw swyddogaethau statudol TAAAC wedi cael eu diwygio gan Ddeddf y Coronafeirws 2020


Cynnwys cysylltiedig/perthnasol

Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref (fersiwn 2),

Newidiadau allweddol i’r ddogfen

  • Y sefyllfa ddiwygiedig ar warchod yn dilyn cyhoeddiad y Prif Swyddogion Meddygol i roi’r gorau i warchod dros dro o 16 Awst ymlaen.
  • Canllawiau ar gludiant ysgol i ddarparu mwy o eglurder.
  • Manylion diwygiedig am fwyd mewn ysgolion a threfniadau arlwyo er mwyn rhoi mwy o eglurhad.
  • Cyngor hunan-ynysu a chyngor ar Brofi, Olrhain, Diogelu wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu bod hunan-ynysu wedi newid o 7 i 10 diwrnodunol â’r DU.

Peidiwch â phoeni – byddwn ni dal yma i’ch cefnogi!

Ar hyn o bryd mae SNAP Cymru yn gweithredu fel arfer.

Er hynny, er mwyn cynnal gweithlu iach a chadarn bydd nifer o ymweliadau cartref yn cael ei dorri ac o heddiw ymlaen, fydd sawl o’n swyddfeydd ar gau i ymwelwyr.   

Peidiwch â phoeni – byddwn ni dal yma i’ch cefnogi!  Bydd Tîm SNAP Cymru yn gweithio o gartref, bydd eich galwadau’n cael eu dargyfeirio a fyddwn yn derbyn e-byst.

Byddwn yn  cadw cysylltiad â theuluoedd dros y ffôn neu ddulliau electronig eraill fel y cytunwyd gyda theuluoedd unigol.

Byddwn yn gweithio gyda theuluoedd unigol a phartneriaid i drefnu cyfarfodydd a gwasanaethau cefnogol pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cysylltwch â snap cymru are ein llinell gymorth os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach. 0808 801 0608

Byddwn yn ymdrechu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb trwy ein gwefan Facebook.

Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu wrth i gyngor newid.

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a gwerthfawr ac os gallwn wneud unrhyw beth i’ch helpu yn ystod y cyfnod heriol yma, rhowch wybod i ni a chadwch lygad allan am y wybodaeth diweddaraf.

Dymuniadau gorau,

SNAP Cymru  

Pobl ifanc yn Ysgol Uwchradd Crughywel sy’n gwneud gwahaniaeth drwy Fagloriaeth Cymru a Rhaglenni ‘First Give’ yn rhoi cyfraniad hawl i SNAP Cymru

Mae myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Crughywel wedi bod yn brysur iawn yn eu gwersi Bagloriaeth Cymru, yn mynd i’r afael â materion cymdeithasol drwy gefnogi elusennau lleol. Mae hyn yn rhan o raglen sy’n cael ei darparu gan yr elusen addysgol, First Give.  Bu’r myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau, gan ddewis pa rai sy’n bwysig iddyn nhw.  Buont yn ymchwilio i’r elusennau sy’n gweithio yn eu cymunedau a dewis un i’w chynrychioli.

Wedyn bu’r myfyrwyr yn cynllunio a chynnal gweithgareddau codi arian, codi ymwybyddiaeth a gwirfoddoli i gefnogi eu helusennau.  

Mae myfyrwyr Blwyddyn 9 wedi gwneud gwaith uniongyrchol yn y gymuned i gefnogi’r elusennau a ddewiswyd ganddynt ac wedi cystadlu yn Rownd Derfynol Ysgol Uwchradd Crughywel, a gynhaliwyd ar 14eg Mehefin.

Roedd yr Ysgol wrth ei bodd yn croesawu Kirsty Williams AC a Gweinidog Addysg Cymru i wasanaethu ar y panel beirniadu. Gwnaeth gwaith caled y myfyrwyr gymaint o argraff ar Kirsty nes iddi gytuno i gyfrannu punt am bob punt yr oedden nhw wedi’i chodi, ar gyfer yr elusennau i gyd.

Yn Rownd Derfynol yr Ysgol, bu’r beirniaid a chynrychiolwyr o rai o’r elusennau yn gwylio cyflwyniadau terfynol y myfyrwyr am yr elusennau yr oeddent wedi’u dewis: Teenage Cancer Trust, Barnardo’s, Crisis, Snap Cymru a Mind. Cafodd y beirniaid anhawster mawr i benderfynu ar y cyflwyniad gorau, ond yn y diwedd dyfarnwyd y grant o £1,000 i’r myfyrwyr a oedd yn cynrychioli Snap Cymru.

Mae Mrs Jackie Parker, Pennaeth Ysgol Uwchradd Crughywel, wedi dweud, “Rydym mor falch o fod yn rhan o raglen First Give eto eleni. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau’r rhaglen ddiddorol hon yn fawr iawn. Maen nhw’n dysgu am bwysigrwydd gofalu am ein cymunedau a gofalu am bobl fregus. Mwynheais y Ffeinal yn fawr iawn ac rwyf wrth fy modd fod Kirsty Williams AC wedi ymuno â ni fel un o’r beirniaid. Rwyf mor falch o’r bobl ifanc ardderchog hyn a’r staff ymroddgar yn ein hysgol.”

Dywedodd Mrs Goold, Pennaeth Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Uwchradd Crughywel, “Mae First Give yn rhaglen benigamp a diddorol, a byddwn yn cymell pob ysgol yng Nghymru i gymryd rhan. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â Bagloriaeth Cymru a’r Cwricwlwm Newydd. Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau gweithio gyda’n helusennau lleol ac maent wedi datblygu llawer o sgiliau pwysig, trosglwyddadwy, a fydd o gymorth iddynt yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at redeg y rhaglen eto y flwyddyn nesaf!”

Dywedodd Ms Denise Inger, Prif Weithredwr SNAP Cymru, “Mae gan 23% yn fras o blant a phobl ifanc Cymru ryw fath o angen dysgu ychwanegol neu anabledd.”  Cafodd SNAP Cymru ei sefydlu am fod cymaint o angen cymorth ar deuluoedd i allu ymdopi â’r gofynion asesu dryslyd a sicrhau darpariaeth ar gyfer anghenion ychwanegol eu plentyn.  

Mae llawer o blant yn cael cefnogaeth dda ac yn gwneud cynnydd da mewn amgylchedd cynhwysol gyda chefnogaeth ragorol gan eu hathrawon ysgol.  Mae eraill yn ei chael hi’n anodd ac mae arnynt angen y cyngor a’r cymorth y gall SNAP Cymru eu cynnig.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd hael hon a fydd yn help i gynnal ein gwasanaethau cyngor a chymorth ar gyfer teuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

Rydym yn gwerthfawrogi’r rhodd yn fawr iawn, ac mae’n fwy arbennig fyth fod y bobl ifanc hefyd wedi datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy rhagorol tra’r oeddent yn cymryd rhan yn y fenter gymdeithasol hon.”  

Gawsoch chi eich ysbrydoli i godi arian i ni?  Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu chi i gychwyn arni:

  • 2. Peidiwch â gwneud y cyfan ar eich pen eich hun – meddyliwch sut gallech gynnwys cydweithwyr, ffrindiau a theulu.  Ac os hoffech chi gael sgwrs gyda ni am yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud, neu os ydych chi’n chwilio am ragor o ysbrydoliaeth, rhowch alwad i ni ar 01554 778288.
  • 3. Sefydlwch dudalen Justgiving ar-lein. Dyma’r ffordd hawsaf bosibl i chi gael eich noddi gan ffrindiau, teulu, a chydweithwyr. Cwta 5 munud fyddwch chi ei angen i sefydlu tudalen ac yna gallwch ychwanegu’r dolenni at negeseuon e-bost, yn ogystal â’ch tudalennau Facebook a Twitter.  Mae’n broses syml cyfrannu at SNAP Cymru – dilynwch y ddolen i’n cyfrif ar https://www.justgiving.com/snapcymru/donate/
  • 4. Gadewch i ni eich helpu chi! Mae gennym lawer o duniau casglu a deunyddiau codi arian eraill i chi eu defnyddio.  Rhowch alwad i ni ar 01554778288/0920348990.  Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dychwelyd pob tun casglu a bwced pan fyddwch wedi gorffen eu defnyddio fel y gallwn eu hanfon at godwyr arian eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech gael sgwrs am eich ymdrechion codi arian, cysylltwch â ni drwy e-bostio amanda.daniels@snapcymru.org neu ffoniwch ni ar 07587187430/02920348990.