O AAA i ADY – Digwyddiadau drwy Gymru gyfan i rieni a gofalwyr plant 0-25 oed sydd ag Anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau

O AAA i ADY – Digwyddiadau drwy Gymru gyfan i rieni a gofalwyr plant 0-25 oed sydd ag Anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau

(Yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru)

Mae SNAP Cymru yn falch o gyhoeddi

‘O AAA i ADY’ – cyfres o fforymau DI-DÂL i rieni, gofalwyr a theuluoedd plant 0-25 oed ledled Cymru sydd ag ADY/Anableddau.

Cynhelir ein fforymau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Cymru rhwng Tachwedd 2022 ac Ebrill 2023. Bydd pob digwyddiad yn ddwyieithog a defnyddir gwasanaethau cyfieithu Cymraeg.

Mae hwn yn gyfle pwysig ac unigryw i ddarparu gwybodaeth ac adborth am fynediad at addysg ADY yng Nghymru. Mae’n gyfle hefyd i rannu gwybodaeth am eich profiadau personol chi o’r system ADY a mynediad at addysg i chi a’ch plentyn neu berson ifanc â rhieni a gofalwyr eraill a thîm SNAP Cymru. Golyga hyn fod modd rhannu gwybodaeth ac adborth gan rieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru.

Beth fydd yn cael ei drafod yn ein digwyddiad?

Os ydych yn rhiant neu ofalwr plentyn neu berson ifanc (0-25 oed) ag Anghenion dysgu ychwanegol a/neu anabledd sy’n byw yng Nghymru, bydd y digwyddiad hwn yn dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am weithredu’r system ADY newydd yng Nghymru mewn ysgolion, Awdurdodau Lleol a Cholegau. 

Efallai eich bod eisoes wedi bod drwy’r profiad o newid i’r system newydd ac y byddech yn hoffi cael cyfle i rannu eich barn a’ch profiadau o’r system ADY newydd a darparu adborth yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. 

Efallai y byddech yn hoffi cyfarfod rhieni a gofalwyr plant eraill sydd ag ADY ac anableddau, a siarad am eich profiadau o addysg?

Neu efallai y byddech yn hoffi cyfarfod eich tîm SNAP Cymru lleol, a threfnu sesiwn 1:1 i rannu eich profiadau o ADY a’ch plentyn neu berson ifanc chi.

 

 

Pryd mae’r fforymau’n cael eu cynnal?

Cynhelir ein fforwm LANSIO cyntaf dydd SUL 27 Tachwedd am 10am – 1pm yng Nghanolfan Serennu, Casnewydd. Dosberthir tocynnau ar sail y cyntaf i’r felin, ac rydym yn rhagweld y bydd galw mawr amdanynt, felly archebwch eich tocyn ar-lein yn fuan.

Bwriedir trefnu 3 sesiwn ar-lein hefyd ym mis Tachwedd 2022 – caiff y dyddiadau eu cyhoeddi yn fuan iawn!

Rhwng Ionawr ac Ebrill 2023 bwriedir cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ledled Cymru mewn lleoliadau fel

Gwent

Caernarfon

Llandudno

Llandrindod

Caerfyrddin

Abertawe

Bro Morganwg

Caerdydd

Rhondda Cynnon Taf

Dyddiadau i’w cyhoeddi yn fuan!

Pryd alla i gofrestru i gael lle AM DDIM?

Edrychwch ar ein tudalen ar Eventbrite i weld ble mae’r digwyddiad agosaf atoch chi: SNAP Cymru Events | Eventbrite

Cefnogir ein digwyddiadau wyneb yn wyneb gan Wasanaeth Cyfieithu Cymen. Bydd pob digwyddiad yn ddwyieithog (gan gynnwys ein sesiynau ar-lein), neu byddant yn cael eu cynnal naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg os nodir hynny. 

Caiff y digwyddiadau hyn eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Os oes gennych gwestiwn, neu os ydych yn methu â dod i unrhyw rai o’n digwyddiadau am ba bynnag reswm, mae croeso i chi roi adborth uniongyrchol am eich profiadau o ADY yng Nghymru drwy anfon ebost i fromsentoaln@snapcymru.org