Cael Help yn yr Ysgol

Y rhan fwyaf o’r amser mae’n bosibl adnabod anawsterau plentyn neu berson ifanc a diwallu ei anghenion drwy ddefnyddio adnoddau’r ysgol.  Mae pob ysgol a gynhelir yn cael arian gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer pob plentyn sy’n mynd iddi, ac arian ychwanegol i helpu’r plant neu’r bobl ifanc hynny sy’n cael anhawster i ddysgu. 

Mae pob ysgol yn ystyried anghenion dysgu unigol ei disgyblion a bydd athrawon yn darparu addysg a dulliau dysgu wedi’u gwahaniaethu.  Mae’n bosibl y bydd athrawon yn darparu’r canlynol, neu rai ohonynt, fel rhan o’r gefnogaeth arferol yn yr ysgol: 

  • ychwanegu mwy o gamau i dasg 
  • cyfarwyddiadau gweledol i helpu plant i drefnu eu hunain 
  • apiau i alluogi dysgwyr i weithio ar eu cyflymder eu hunain 
  • caniatáu mwy o amser i gwblhau tasgau 
  • grwpiau dal i fyny neu waith mewn grwpiau bach â chefnogaeth benodol ar gyfer mathemateg a llenyddiaeth  
  • cefnogaeth llesiant 

Bydd ar rai plant angen mwy o help, neu angen help gwahanol i’r hyn sy’n cael ei ddarparu’n gyffredinol i bob plentyn.   

Mae gan 20% o’r holl blant anghenion dysgu ychwanegol rywbryd neu’i gilydd – mae hynny yn 1 o bob 5 plentyn 

Mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddyletswyddau cyfreithiol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”). 

Mae gan feithrinfeydd, ysgolion a cholegau ddyletswyddau clir dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod ADY Cymru 2021 (y “Cod”).  Mae’r cod yn cynnwys canllawiau ynglŷn â beth y dylent fod yn ei wneud er mwyn adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY.  

Yn y system ADY newydd, mae gan Ysgolion ddyletswydd i ‘benderfynu’ a oes gan blentyn neu berson ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac i roi i’r plentyn hwnnw y gefnogaeth y mae arno ei hangen i’w helpu i ddysgu.  

Mae’r Cod ADY yn dweud mai’r “sbardun” ar gyfer darparu help fydd pryder ynglŷn â chynnydd y plentyn.   

Er mai Athrawon yn aml iawn yw’r bobl sy’n penderfynu bod ar blentyn angen help, mae’r Cod yn dweud y gall unrhyw un sy’n adnabod y plentyn ac sydd â phryder amdano roi gwybod i’r ysgol.  Mae hyn yn cydnabod bod gan Rieni a Gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn aml iawn wybodaeth hanfodol a all gadarnhau neu ychwanegu at farn yr ysgol.  

Rhaid i bob ysgol gael Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY).  Mae’r Ddeddf ADY yn nodi bod cael cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn ofyniad statudol (cyfreithiol) mewn ysgolion. Cyn hyn, roedd cael Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn ofyniad anstatudol. 

Mae’r Cod ADY yn dweud y dylai ysgolion geisio adnabod anhawster plentyn yn gynnar, fel bod y plentyn yn gallu cael y math iawn o help ar y cyfle cynharaf posibl.   

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ac Atebion:

‘Nid wyf yn fodlon â’r help mae fy mhlentyn yn ei gael yn yr ysgol’

Y cam cyntaf yw siarad â’r ysgol a gofyn am gyfarfod. Fel arfer mae gan ysgolion weithdrefnau ar gyfer cysylltu neu drefnu cyfarfod ag aelod o’r staff.   

Os ydych yn poeni ynglŷn â sut mae eich plentyn yn dysgu siaradwch â’i athro/athrawes.  Mae gan bob ysgol hefyd athro/athrawes sydd â chyfrifoldeb arbennig am blant ag anghenion dysgu ychwanegol.  Gelwir y person hwn yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY).  Bydd yn cymryd eich problem o ddifri ac yn ceisio eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau cyn gynted ag y gall.  Dylech bob amser wneud apwyntiad – mae gennych fwy o gyfle i gael eich clywed nag wrth geisio dal athro/athrawes brysur yn ystod amser ysgol.  

Os yw hyn yn anodd, rhowch y cais ar bapur.  

Cyn gofyn am gyfarfod gyda’r ysgol mae’n werth meddwl beth sy’n mynd o’i le a beth rydych eisiau i’r ysgol ei wneud am hynny. 

Beth allwch chi ei wneud i baratoi   

  1. Gwneud nodyn o’r materion neu’r cwestiynau sydd gennych
  2. Meddwl beth fyddai’n gwneud pethau’n well neu’n eich gwneud chi’n hapusach
  3. Cael gwybodaeth yn barod am eich problem neu gwestiwn. 

Gall mynd i gyfarfodydd am addysg eich plentyn fod yn brofiad cadarnhaol iawn, ond gall hefyd fod yn deimlad anodd neu rwystredig. I gael help edrychwch ar ein gwybodaeth am baratoi ar gyfer cyfarfod ysgol’  

Os oes gan eich plentyn Gynllun Addysg Unigol (CAU), Cynllun datblygu unigol (CDU) neu ddatganiad yn barod gallwch hefyd godi eich pryderon mewn cyfarfodydd adolygu a ddylai gael eu cynnal sawl gwaith y flwyddyn neu gofynnwch am adolygiad cynnar.    

Os nad oes gan eich plentyn gynllun, a’ch bod yn meddwl y byddai’n elwa o gael un, gallwch ofyn am gyfarfod gyda’r ysgol i drafod hyn.  

Dylai’r ysgol: 

  • Gymryd eich problem o ddifri 
  • Eich cynnwys chi a’ch plentyn ac ystyried eich barn  
  • Archwilio pob mater a phryder  
  • Casglu gwybodaeth ac egluro’r sefyllfa  
  • Archwilio opsiynau  
  • Adolygu cynnydd eich plentyn 
  • Rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i chi os oes angen, i’ch helpu i gymryd rhan yn unrhyw rai o’r prosesau gwneud penderfyniadau neu gwynion 
  • Rhoi manylion y gwasanaethau gwybodaeth a chyngor lleol neu ddatrys anghydfodau 
  • Os oes angen, paratoi a datblygu Cynllun Datblygu Unigol a gwneud y paratoadau ar gyfer eich plentyn os oes arno angen darpariaeth ddysgu ychwanegol 

Cofiwch –  

  • Os oes modd, gwnewch awgrymiadau ar gyfer trafodaeth ynglŷn â beth allai helpu. 
  • Os oes gennych unrhyw bryderon nad yw’r ysgol wedi rhoi sylw iddynt – dywedwch wrthynt.   
  • Os nad yw’r camau y cytunwyd arnynt wedi digwydd ewch ar ôl pethau gyda’r ysgol. 

Os ydych wedi trio cyfarfod yr ysgol, ond eich bod yn dal yn anfodlon, rhowch eich pryderon ar bapur.  Canolbwyntiwch ar anghenion eich plentyn ac effaith y sefyllfa bresennol ar ei ddysgu a’i les.  Nodwch yn glir bod arnoch eisiau dal i weithio gyda’ch gilydd, ond bod rhai pethau rydych yn dal i boeni amdanynt.  Eglurwch beth yw’r pethau hyn a beth y byddech yn hoffi i’r ysgol ei wneud amdanynt. 

Sut mae’r ysgol yn penderfynu a oes gan blentyn ADY?

Mae’r gyfraith yn dweud bod gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru  ‘Ddyletswydd i Benderfynu’ ynghylch ADY. (dan adran 11 o’r Ddeddf)   

Pan fydd ysgol yn ‘dod i wybod’ neu pan fydd yn teimlo y gallai plentyn neu berson ifanc yn yr ysgol fod ag ADY ‘rhaid iddi benderfynu’ a oes gan y plentyn neu’r person ifanc hwnnw Anghenion Dysgu Ychwanegol oni bai:  

  • fod cynllun datblygu unigol (CDU) wedi’i wneud yn barod ar gyfer y plentyn; 
  • fod penderfyniad wedi’i wneud yn barod nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY ac nad yw anghenion y plentyn neu berson ifanc wedi newid;  
  • fod y person ifanc dros 16 ac nad yw’n cydsynio (cytuno) i’r penderfyniad gael ei wneud.  

 Rhieni yn aml yw’r rhai cyntaf i fod yn ymwybodol o anghenion eu plentyn a gallant ddwyn hyn i sylw’r ysgol.  Gall gweithwyr proffesiynol eraill hefyd ddwyn hyn i sylw’r ysgol.     

RHAID i’r ysgol gofnodi’r dyddiad y mae’r pryder yn cael ei ddwyn i’w sylw am y tro cyntaf, a dylai hefyd gofnodi’r rhestr o bryderon.   

Rhaid i’r ysgol ddweud wrth y plentyn a Rhiant/Gofalwr y plentyn ei bod yn penderfynu a oes gan y plentyn ADY.  RHAID iddi hysbysu’r rhieni ynglŷn â hyn. 

Yr ymarfer gorau fyddai i’r ysgol gynnal cyfarfod gyda’r plentyn a rhiant y plentyn neu’r person ifanc, i drafod y broses a gofyn am unrhyw wybodaeth a allai fod ganddynt i’w helpu i wneud y penderfyniad.   

Gall yr ysgol ofyn am gyngor gan wasanaethau eraill megis iechyd a seicoleg addysg neu CAMHS i’w helpu i benderfynu. 

Bydd person dynodedig, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) fel arfer yn gyfrifol am gydlynu’r hyn sydd ei angen er mwyn i’r ysgol wneud y penderfyniad.   

I gael mwy o wybodaeth gweler >  Beth yw CDU? 

Templedi defnyddiol (links) 

Gofyn i ysgol benderfynu a oes gan blentyn ADY 

Mae’r ysgol wedi penderfynu bod gan fy mhlentyn ADY – beth sy’n digwydd nesaf?

Os yw’r ysgol wedi penderfynu bod gan eich plentyn neu berson ifanc ADY, RHAID iddi baratoi Cynllun Addysg Unigol (CAU) iddo. 

Cyn i’r CAU gael ei gwblhau, dylai’r ysgol roi cyfle i chi wneud sylwadau ynglŷn â’r cynllun drafft.  Dylech godi unrhyw bryderon cyn gynted ag y bo modd. 

Ar ôl ei baratoi RHAID i’r ysgol roi copi o’r cynllun terfynol i chi, yn brydlon ac yn sicr cyn pen 35 diwrnod ysgol. (Adran 22(1) o’r Ddeddf) 

Pan fyddwch yn derbyn copi o’r CDU RHAID i’r ysgol hefyd roi llythyr hysbysu i chi a fydd yn cynnwys y canlynol:  

  • manylion cyswllt yr ysgol; 
  • gwybodaeth am sut i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor diduedd am ADY a’r system ADY;  
  • manylion ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau a gwasanaethau eirioli annibynnol; 
  • gwybodaeth am yr hawl i ofyn i’r Awdurdod Lleol ‘ailystyried y cynllun’ neu ‘gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun’;
  • manylion cyswllt yr awdurdod lleol cyfrifol. 

    Beth os bydd ysgol yn penderfynu ‘nad oes gan eich plentyn ADY’?

    Rhaid i’r ysgol ystyried yn ofalus a oes gan eich plentyn ADY ai peidio.  Dylai ddefnyddio’r prawf camau a argymhellir yn y Cod ADY. (Pennod 2)    Gweler hefyd ‘Beth yw ADY?’   

    Hysbysiad dim CDU 

    Os bydd ysgol yn penderfynu nad oes gan eich plentyn ADY, RHAID iddi eich ‘hysbysu’ chi (rhoi gwybod i chi) ynglŷn â’r penderfyniad yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod o 35 diwrnod ysgol.  h.y. rhoi hysbysiad dim CDU

    Rhaid i’r ysgol: 

    • Roi gwybod i chi am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad 
    • Rhoi manylion am sut i gael gwybodaeth a chyngor diduedd  
    • Eich hysbysu chi a’ch plentyn ynglŷn â’i ‘hawl i ofyn i’r Awdurdod Lleol (ALl) ailystyried penderfyniad yr ysgol’  
    • Rhoi manylion cyswllt yr Awdurdod Lleol (ALl) cyfrifol 
    • Rhoi manylion trefniadau’r ALl ar gyfer Osgoi a Datrys Anghytundebau – (mae SNAP Cymru yn darparu’r gwasanaeth hwn yn y rhan fwyaf o’r ALlau yng Nghymru) 
    • Rhoi manylion Gwasanaeth Eirioli Annibynnol yr ALl 

       Dylai’r llythyr hysbysu hefyd ddisgrifio beth fydd yr ysgol yn ei wneud er mwyn sicrhau bod anghenion eich plentyn (nad ydynt yn ADY) yn cael eu diwallu. Gallai hyn gynnwys strategaethau addysgu gwahaniaethol yn yr ystafell ddosbarth, fel y rhai y cyfeirir atynt uchod. 

      Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad hwn, efallai y byddwch eisiau gofyn am gyfarfod gyda’r ysgol i drafod y penderfyniad ymhellach a chael gwell darlun o’r gefnogaeth a fydd ar gael yn yr ysgol.   

      Mae gennych hefyd hawl i ofyn i’r Awdurdod Lleol ailystyried penderfyniad yr ysgol. 

      Dylai cais i ailystyried penderfyniad yr ysgol gael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lleol yn ysgrifenedig.     

      Siaradwch â’n cynghorwyr ar 0808 801 0608 neu anfonwch ymholiad ar y dudalen ‘Cysylltwch â ni’ a bydd cynghorydd yn cysylltu â chi 

      I gael mwy o wybodaeth gweler – gofyn i’r ALl ailystyried 

      Alla i ofyn am CDU i’m plentyn?

      Mae’n bosibl i riant, gweithiwr proffesiynol neu’r dysgwr ei hun wneud cais am CDU: 

      • Ar gyfer plant 0 – 5 oed caiff y cais ei wneud i’r Awdurdod Lleol oni bai fod y plentyn yn mynychu ysgol brif ffrwd;  
      • Ar gyfer plant oed ysgol, caiff y cais ei wneud i’r ysgol yn gyntaf.  

      Ar ôl derbyn cais ‘rhaid i’r ysgol benderfynu.’  Os bydd yr ysgol yn penderfynu ar ôl ystyried y dystiolaeth nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r ysgol baratoi  Cynllun Datblygu Unigol (CDU) 

      Bydd y CDU yn amlinellu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) y mae ar blentyn ei hangen, ond gall hefyd gynnwys darpariaethau gan wasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac unrhyw asiantaethau eraill sy’n ymwneud â gofalu am y plentyn a’i gefnogi. 

      Os ydych yn poeni am gynnydd eich plentyn, gofynnwch am gael siarad ag athro/athrawes eich plentyn neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i drafod eich pryderon. 

      Gallwch hefyd gysylltu â SNAP Cymru ar 0808 801 0608 

      Faint mae’n ei gymryd i baratoi CDU?

      Bydd yr amser mae’n ei gymryd i baratoi CDU yn dibynnu ar natur anghenion plentyn neu berson ifanc.  

      Yn achos plant a phobl ifanc sydd ag anghenion llai cymhleth bydd paratoi’r CDU yn symlach ac yn gyflymach. 

      Mae’n debyg y bydd angen mewnbwn a chyngor arbenigol ar gyfer CDU i blentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion difrifol, cymhleth neu lai cyffredin (sy’n digwydd yn anghyffredin neu mewn niferoedd isel), ac y bydd yn cynnwys llawer mwy o fanylion am amrywiaeth eang o ymyriadau. Bydd cynllun o’r fath yn cymryd mwy o amser i’w baratoi fel arfer. 

      Mae’r Cod ADY yn dweud bod yn RHAID i ysgol baratoi CDU yn ‘brydlon’, ac yn sicr cyn diwedd y cyfnod o 35 diwrnod ysgol i’r dyddiad y mae’r mater yn cael ei ddwyn i sylw’r ysgol neu i’r dyddiad y mae’r ysgol yn credu bod gan y plentyn neu berson ifanc ADY. 

      Ni ddylai unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd ag ADY fynd am fwy na thymor ysgol cyn sefydlu CDU (tymor ysgol fel arfer yn para am tua 13 wythnos).  

      Beth yw dyletswyddau’r Ysgol i blentyn neu berson ifanc sydd â CDU Awdurdod Lleol (ysgol a gynhelir)?

      Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gymryd ‘pob cam rhesymol’ i helpu’r Awdurdod Lleol i gynnal cynllun a sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ynddo.  

      Cyn enwi ysgol mewn CDU rhaid i Awdurdod Lleol ymgynghori â chorff llywodraethu’r ysgol ac Awdurdod Lleol yr ardal y mae’r ysgol wedi’i lleoli ynddo.  

      Ni ellir enwi ysgol oni bai fod yr ALl yn fodlon y gellir sicrhau budd pennaf y plentyn neu’r person ifanc yn yr ysgol a’i bod yn briodol i’r plentyn neu’r person ifanc dderbyn addysg yn yr ysgol.  

      Nid yw’r cyfyngiadau ar faint dosbarthiadau babanod yn gymwys yn yr amgylchiadau hyn. Os yw’r Awdurdod yn enwi ysgol mewn cynllun yna mae’n rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol dderbyn y plentyn.  

      I gael mwy o wybodaeth gweler 

      Beth os ydw i’n anghytuno 

      Crynodeb 

      Os yw plentyn neu berson ifanc wedi penderfynu bod gan blentyn ADY, dylai ysgolion: 

      • Benderfynu a datblygu’r CDU cyn pen 35 diwrnod; 
      • Rhannu’r CDU gyda’r Plentyn a’r Rhiant;  
      • Gwneud trefniadau ar gyfer hysbysu’r holl staff sy’n ymwneud â’r disgybl am yr anghenion hynny; 
      • Cynnwys y CADY yn y gwaith o gynghori staff addysgu ynglŷn â dulliau addysgu priodol i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r disgybl er mwyn diwallu ADY y plentyn; 
      • Gwneud addasiadau priodol i amgylchedd yr ysgol er mwyn gwella mynediad y plentyn neu’r person ifanc at addysg; 
      • Darparu cefnogaeth ychwanegol a/neu wahanol briodol i’r plentyn neu’r person ifanc o’r adnoddau a ddirprwywyd iddynt gan yr ALl, gan gynnwys mynediad at fewnbwn gan arbenigwyr allanol; 
      • Monitro effaith cefnogaeth a ddarperir i’r plentyn neu’r person ifanc a’i haddasu os yw’n dod yn amlwg y byddai hyn yn briodol. 
      • Adolygu CDU y plentyn yn flynyddol.  
      • Dylai’r ysgol weithio mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc i baratoi CDU ar gyfer disgyblion ADY. 

          Gwirfoddoli

          Codi Arian