Gallwch ffonio ein gwasanaeth llinell gymorth.  Wrth gysylltu â ni fel hyn, byddwch yn medru cael gafael ar gynghorydd hyfforddedig a phrofiadol a fydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth annibynnol, cywir a chyfrinachol.

Mae’r wybodaeth a’r llinell gyngor ar gael o ddydd Llun tan ddydd Gwener 9.30 am – 4.30 pm ac mae peiriant ateb ar gael bob adeg arall. Fe wnawn eich ffonio’n ôl os byddwch yn gadael neges.

  • Rydym yn gwrando ar eich pryderon
  • Rydym yn eich helpu i gael gwybodaeth briodol
  • Rydym yn rhoi gwybodaeth am sut mae ysgolion a’r awdurdod lleol yn adnabod ac yn asesu Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Rydym yn eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer cyfarfodydd ac yn eich cynorthwyo i benderfynu pa gwestiynau i’w gofyn
  • Rydym yn cynorthwyo gyda gwaith papur
  • Gallwn eich cynorthwyo i gyfathrebu gyda’r ysgol a datrys anghytundebau yn gynnar

      Ffurflen Atgyfeirio

      Llenwch y ffurflen yn ddiogel ar lein isod os ydych am gael cyngor a help penodol ar gyfer eich plentyn. Bydd un o’n cynghorwyr hyfforddedig yn anfon ateb i chi drwy e-bost. Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen byddwn yn anelu at roi’r wybodaeth berthnasol i chi o fewn tri diwrnod gwaith Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd cyn ei llenwi.

      Gallwch wneud atgyfeiriad drwy lenwi’r ffurflen atgyfeirio ddiogel isod:

      Archebu apwyntiad â chynghorydd Llinell Gymorth.

      Gallwch archebu apwyntiad â chynghorydd Llinell Gymorth. Mae apwyntiadau galw’n ôl yn cael eu rhyddhau hyd at fis ymlaen llaw.  

      Drwy glicio ar y dyddiad o’ch dewis gallwch weld pob slot sydd ar gael ar gyfer ein llinell gymorth ar y diwrnod hwnnw. Bydd pob slot gyda chynghorydd yn para am 45 munud. Os nad ydych yn gallu gweld yr amser rydych chi ei eisiau, bydd angen i chi glicio ar ddyddiad arall.

      Os hoffech gael sgwrs â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg dylech nodi hyn wrth gyflwyno eich gwybodaeth.  

      Pan fyddwch yn archebu apwyntiad gofynnir i chi lenwi Ffurflen Gwybodaeth gan Riant. Caiff y ffurflen ei rhannu gyda’r cynghorydd cyn eich apwyntiad.

      Bydd yr wybodaeth a roddir gennych yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac ni fyddwn yn rhannu eich enw na gwybodaeth bersonol amdanoch gyda neb arall.

      Drwy ddefnyddio system archebu Llinell Gyngor SNAP Cymru, rydych yn derbyn telerau ein Polisi preifatrwydd.

      Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd a phobl ifanc yn gweld eu bod yn medru datrys materion penodol ar ôl cael y cyngor. Cewch ddod yn ôl mor aml ag y dymunech ynghylch mater penodol neu faterion eraill sy’n codi.

      Gweithwyr Proffesiynol 

      Dylai gweithwyr proffesiynol sy’n cysylltu â ni ar ran teuluoedd annog teuluoedd i wneud hunan atgyfeiriad lle bynnag y bo modd. Mae’n rhaid iddynt gael caniatâd y rhiant i atgyfeirio. Gall gweithwyr proffesiynol hefyd gysylltu er mwyn cael gwybodaeth a chyngor cyffredinol.

      Gallwch wneud atgyfeiriad drwy lenwi’r ffurflen atgyfeirio ddiogel isod:

      Gwybodaeth a Chyngor

      Gwahaniaethu

      Cymorth Cynnar

      Datrys Anghydfod