Sut ddylai’r awdurdod lleol (ALl) helpu

Mae gan Awdurdodau Lleol(ALlau) ddyletswyddau cyfreithiol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”).

Caiff y dyletswyddau hyn eu disgrifio yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 a Chod ADY Cymru 2021 (y “Cod”) a Rheoliadau ADY 2021.

Mae ALlau yn gyfrifol am ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) o 0 i 25 oed, gan sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i addysg a/neu hyfforddiant addas, gan gynnwys addysg orfodol ac addysg ôl-16 arbenigol lle bo angen. Mae ALlau yn dirprwyo cyllid i ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY.

Caiff y rhan fwyaf o’r Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) eu datblygu gan ysgolion neu sefydliadau addysg bellach.  Yn yr amgylchiadau a ganlyn, fodd bynnag, yr awdurdod lleol (ALl) fydd yn penderfynu:

  • Os yw plentyn o dan yr oed ysgol gorfodol (dan 5 oed a heb fod mewn ysgol a gynhelir) gall rhieni a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn ddod â’r plentyn i sylw’r ALl a gofyn iddo benderfynu a oes gan y plentyn ADY a pharatoi CDU
  • Os yw plentyn neu berson ifanc yn ‘derbyn gofal’ bydd yr ALl yn gyfrifol am ‘benderfynu a pharatoi’ CDU os oes angen un (Adran 17)
  • Os yw plentyn yn mynychu ysgol nas cynhelir (nad yw’n cael cefnogaeth ariannol gan yr ALl) a bod gan y rhieni bryder y gallai eu plentyn fod ag ADY, yna bydd angen i’r rhieni gysylltu â’r awdurdod lleol i gael ‘penderfyniad’
  • Os yw plentyn yn cael addysg heblaw yn yr ysgol neu wedi’i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad
  • Os yw plentyn ‘yn cael ei gadw’n gaeth’ (e.e. plant neu bobl ifanc sydd mewn sefydliadau troseddwyr ifanc neu gartref plant diogel) bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol

 

Rhaid i Awdurdodau Lleol hefyd ddarparu :

  • Gwybodaeth a chyngor diduedd i blant, pobl ifanc a rhieni
  • Trefniadau ar gyfer Osgoi a Datrys anghytundebau sy’n annibynnol ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau
  • Mynediad at wasanaethau eirioli annibynnol i’r rhai sydd eu hangen
  • Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar i gynllunio ar gyfer plant dan 5 oed ac ar gyfer yr adeg y byddant yn trosglwyddo i ysgol

Mae’r ALl hefyd yn gyfrifol am adolygu’r trefniadau ADY a’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) sydd ar gael yn ei ardal er mwyn sicrhau bod digon o ddarpariaeth i ddiwallu anghenion cyffredinol yr holl ddysgwyr sydd ag ADY yn yr ardal honno a bod y DDdY yn effeithiol.

Dyletswydd awdurdod lleol i benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY

Pan fydd yn ‘ymddangos’ i ALl, neu pan gaiff ‘ei ddwyn i sylw’ ALl y gallai plentyn neu berson ifanc fod ag ADY mae gan yr awdurdod lleol ‘ddyletswydd i benderfynu’. (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Adran 13)

Er enghraifft,

Byddai’n ofynnol i ‘ALl’ wneud penderfyniad am ADY

  • os yw plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gyfeirio gan gorff llywodraethu
  • os yw plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc wedi gwneud cais uniongyrchol i’r awdurdod lleol
  • os yw Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud atgyfeiriad (Adran 64)
  • neu wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan y Tribiwnlys Addysg

RHAID i’r ALl wneud penderfyniad oni bai fod un o’r amgylchiadau a ganlyn yn gymwys:

 

  • mae CDU eisoes yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn;
  • mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y mater o’r blaen ac yn fodlon nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers i’r
    penderfyniad gael ei wneud ac nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw.

Os oes gennych gwestiynau, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, gallwch sgrolio i lawr i ddarllen drwy ein cwestiynau cyffredin, rydym wedi ymdrin â llawer o wahanol agweddau i sichau bod popeth yn glir i bawb.

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae awdurdod lleol yn ‘penderfynu’ a oes gan blentyn ADY?

Pan gaiff ‘ei ddwyn i sylw’ awdurdod lleol, neu lle mae’n ‘ymddangos’ i awdurdod lleol y gallai plentyn neu berson ifanc fod ag ADY, RHAID i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn ADY oni bai fod un o’r amgylchiadau a ganlyn yn gymwys: (Adran 12) 

  • mae CDU yn cael ei gynnal yn barod ar gyfer y plentyn. 
  • mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y mater o’r blaen ac mae’n fodlon nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers y penderfyniad hwnnw ac nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw. 

Dylai’r awdurdod lleol (‘ALl’) ddynodi swyddog (y ‘cydlynydd dynodedig’) i fod yn gyfrifol am gydlynu’r camau sydd eu hangen er mwyn gwneud y penderfyniad hwnnw, ac os oes angen CDU, i fod yn gyfrifol am ei baratoi. (Mewn gwirionedd caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud gan banel o swyddogion ALl.) 

RHAID i’r ‘ALl’ gofnodi’r dyddiad y caiff y mater ei ddwyn i’w sylw.  Dylai’r ALl gofnodi crynodeb o’r materion a hysbysu rhiant y plentyn ei fod yn penderfynu a oes gan y plentyn ADY. 

Gallai’r ALl ystyried cynnig cyfarfod cychwynnol gyda’r plentyn a rhiant y plentyn, i drafod y broses. Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor diduedd ar y broses ADY.  Rhaid i ‘ALlau’ roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhiant. Rhaid rhoi unrhyw benderfyniad i’r rhiant mewn llythyr hysbysu, a RHAID i’r llythyr hwnnw gynnwys: 

  • Manylion cyswllt yr awdurdod leol;  
  • Gwybodaeth am sut i ddod o hyd i drefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer rhoi gwybodaeth a chyngor am ADY a’r system ADY i bobl;  
  • Syniad o’r amserlen debygol ar gyfer y broses.

Wrth benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY bydd yr ALl yn ystyried a ddylid gofyn am gyngor gan seicolegydd addysg.  Dylai’r ALl wneud hyn os oes angen y cyngor er mwyn penderfynu ynglŷn â’r canlynol: 

  • graddau neu natur yr ADY a allai fod gan y plentyn, neu 
  • y DDdY y gofynnir amdani gan ADY y plentyn 
  • y lleoliad priodol ar gyfer plentyn 

    RHAID i’r cyngor gynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol am anawsterau neu anableddau dysgu’r plentyn; 

    • sut mae’r anawsterau neu’r anableddau dysgu yn effeithio ar ddysgu’r plentyn/person ifanc;  
    • y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n briodol i’r plentyn a sut y caiff ei darparu; 
    • a yw’r plentyn eisoes mewn cysylltiad neu’n derbyn cefnogaeth gan asiantaethau eraill.

    Mae’r diffiniad o’r term newydd ‘anghenion dysgu ychwanegol’ (ADY) yn debyg iawn i’r diffiniad presennol o anghenion addysgol arbennig.  Y gwahaniaeth mwyaf yw y gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant a phobl ifanc o 0 i 25 oed.   

    Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn ychwanegu adran sy’n dweud bod gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster neu anabledd dysgu sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. 

     Gweler yr adran ‘Beth yw ADY?  Ar gyfer y cwestiynau y mae’n rhaid i’r ALl eu hystyried wrth wneud penderfyniad. 

      A oes gan yr ALl ddyletswydd i gynnal CDUau?

      Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod gan blentyn neu berson ifanc ADY rhaid iddo baratoi a chynnal CDU ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc hwnnw. 

      Fodd bynnag, gall yr ALl hefyd  

      • baratoi CDU a chyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun 
      • cyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i baratoi a chynnal cynllun. 

       Os na ellir diwallu ‘anghenion rhesymol’ plentyn neu berson ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai fod awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun. 

      Y mathau o ddarpariaeth yw — 

      • lle mewn ysgol neu sefydliad arall penodol  
      • bwyd a llety 

      (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, Adran 12 (1)(2a) (Adran 13(1)) 

      A all ‘ALl’ ailystyried penderfyniad ysgol am ADY?

      GALL.  Mae’r gyfraith yn rhoi dyletswydd ar yr ALl i ‘ailystyried penderfyniadau corff llywodraethu ysgol neu goleg’. Mae hyn yn rhoi hawl i blentyn, person ifanc neu riant plentyn ofyn am ailystyriaeth o’r penderfyniadau a ganlyn gan gorff llywodraethu: 

      • penderfyniad a wneir gan ysgol ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY  
      • penderfyniad i adolygu a diwygio CDU ysgol/sefydliad addysg bellach 
      • penderfyniad ysgol neu sefydliad addysg bellach i beidio â chynnal CDU.  

      Yn ychwanegol at hyn gall y Plentyn, Rhiant y Plentyn neu berson ifanc a Chorff Llywodraethu wneud cais yn nodi y dylai’r ALl ystyried ‘cymryd drosodd’ CDU a gynhelir gan ysgol neu sefydliad addysg bellach. 

      Ailystyried yw’r unig ffordd ffurfiol o herio penderfyniad.   

      Y ffordd orau o symud ymlaen yw trafod unrhyw benderfyniad gan ysgol am ADY gyda’r ysgol cyn gynted ag y byddwch yn derbyn yr hysbysiad.  Gofynnwch am gyfarfod i godi eich pryderon.  Gellir datrys y rhan fwyaf o anghydfodau yn y cam cynnar hwn ac atal y broblem rhag gwaethygu. 

      Rhaid i’r ysgol egluro ei phenderfyniad a dweud wrthych sut y mae’n bwriadu diwallu anghenion eich plentyn os byddant yn cael eu diwallu drwy ‘ddarpariaeth gyffredinol’ yr ysgol ac addysgu gwahaniaethol.  Mae’r Cod ADY (12.14) (12.15) yn argymell y gallai fod yn fuddiol i gynnig cyfle i’r plentyn a’i riant drafod y mater ymhellach.   

      Os ydych yn dal yn anfodlon, er eich bod wedi trafod eich pryderon gyda’r ysgol, gallwch ofyn i’r ALl ailystyried y penderfyniad. 

      Mae gan yr ALl 7 wythnos i ailystyried y penderfyniad. (Adran 26 o’r Ddeddf) 

      Cyn iddo benderfynu, RHAID i’r awdurdod lleol hysbysu’r ysgol ynglŷn â’r cais a gwahodd yr ysgol i wneud sylwadau. 

      Os bydd yr ALl yn penderfynu gwrthdroi penderfyniad yr ysgol, ni fydd penderfyniad blaenorol yr ysgol yn weithredol mwyach.  

      Caiff yr ysgol ei chyfarwyddo i baratoi CDU.   

      I gael mwy o wybodaeth gweler > 

      Ailystyried penderfyniadau ysgol  

      Gallwch hefyd gysylltu â SNAP Cymru a defnyddio’r llythyrau templed a ganlyn  

      ‘Gofyn i ALl ailystyried penderfyniad ysgol am ADY’ 

       

      Os bydd ysgol yn gwrthod penderfynu a oes gan fy mhlentyn ADY alla i ofyn i’r ALl ailystyried hyn?  

      Gallwch   

      Alla i ofyn i Awdurdod Lleol ailystyried a diwygio CDU ysgol?

      GALLWCH.  Os yw plentyn, person ifanc neu riant yn anfodlon â CDU a gynhelir gan ei ysgol, neu os yw’n teimlo nad yw’r CDU yn diwallu’r anghenion yn briodol, dylai yn y lle cyntaf gysylltu â’r ysgol i drafod ei bryderon.  Gall hefyd gysylltu â SNAP Cymru i gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.  Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y CDU yn briodol a bod unrhyw anghydfod yn cael ei ddatrys yn gynnar. 

      Fodd bynnag, os bydd plentyn, person ifanc neu riant yn dal yn anfodlon â’r CDU, gall ofyn i’r ‘ALl’ ailystyried a diwygio’r cynllun (Adran 27(1)(b)).

      RHAID i’r ALl ystyried y cais a phenderfynu a ddylid diwygio’r cynllun ai peidio.   

      Os bydd yr ALl yn penderfynu ‘diwygio’r cynllun’, dylai roi copi o’r CDU i’r plentyn, rhiant a pherson ifanc i wneud sylwadau ar y drafft. 

      Gall yr ALl: 

      • gyfarwyddo (gorchymyn i’r) ysgol ddiwygio’r cynllun (Adran 14.(1)) 
      • diwygio’r cynllun ei hun a chyfarwyddo’r ysgol i gynnal y cynllun (Adran 14(2)) 
      • neu benderfynu ‘cymryd drosodd’ y cynllun ei hun.  Byddai’r CDU wedyn yn dod yn CDU a gynhelir gan ALl (Adran 26.(a)(b)).

       Mae gan yr ALl 7 wythnos i ailystyried y cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu a pharatoi neu orchymyn i’r ysgol baratoi o fewn y cyfnod hwn. 

      Os bydd yr ALl, ar ôl ystyried y mater, yn penderfynu ‘peidio â diwygio’ y cynllun, dylai hysbysu’r rhiant a rhoi rhesymau dros ei benderfyniad. Gellir apelio yn erbyn y penderfyniad hwn drwy gysylltu â Thribiwnlys Addysg Cymru.

      Gweler Apelio yn erbyn penderfyniadau am ADY  

      Alla i wneud cais yn gofyn i ALl ‘gymryd drosodd’ CDU ysgol neu goleg (sefydliad addysg bellach)?

      GALLWCH. Os ydych yn anfodlon â chynnwys y CDU neu os ydych yn teimlo na all cynllun a gynhelir gan ysgol neu goleg ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc, trafodwch eich pryderon gyda’r Ysgol/Coleg.  

      Mewn llawer o amgylchiadau bydd yr ysgol yn gallu cael mynediad at adnoddau ychwanegol neu wahanol a gall ddiwygio’r cynllun yn rhwydd er mwyn cynnwys y newidiadau hyn.   

      Gallwch drafod eich pryderon yn ystod y broses o baratoi CDU, fel y maent yn codi neu yn dilyn adolygiad o CDU.     

      Mae’n bosibl, er enghraifft, y bydd newid sydyn neu annisgwyl mewn amgylchiadau (efallai y bydd anghenion plentyn neu berson ifanc wedi mynd yn llawer mwy difrifol), neu eich bod yn teimlo nad yw’r ysgol neu’r coleg yn gallu darparu’r gefnogaeth ddigonol neu’r arbenigedd y mae ar eich mab neu ferch ei angen.   

       Mae’n bosibl hefyd y bydd corff llywodraethu ysgol neu goleg sy’n gyfrifol am y cynllun yn teimlo bod amgylchiadau lle bydd yn gofyn i’r ALl gymryd y cynllun drosodd.  Gall yr amgylchiadau hyn gynnwys y canlynol — 

      • mae’r corff llywodraethu o’r farn fod gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a allai alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ‘na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau’ 
      • ni ellir pennu graddau neu natur yr ADY yn ddigonol, neu 
      • ni all y corff llywodraethu benderfynu’n ddigonol ar y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol  

      Enghreifftiau posibl o hyn yw: 

      Lle mae gan y plentyn neu berson ifanc gyflwr anghyffredin neu brin sydd angen arbenigedd na all yr ysgol ei ddarparu. 

      Neu er mwyn diwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc, mae ar yr ysgol angen cyngor a chefnogaeth reolaidd gan arbenigwyr allanol sy’n fwy nag y gall yr ysgol ei roi. 

      Mae ar y plentyn neu’r person ifanc angen cyfarpar y gellir ei ddefnyddio gan un disgybl yn unig neu na ellir ei ailddefnyddio neu sydd y tu hwnt i adnoddau rhesymol yr ysgol. 

      Neu mae ar y plentyn neu’r person ifanc angen cymorth dyddiol dwys iawn na ellir yn rhesymol ei gyllido neu ei sicrhau o gyllideb yr ysgol. 

      Gall y bobl a ganlyn ofyn i ALl ystyried a ddylai gymryd drosodd’ y cyfrifoldeb am CDU a gynhelir gan gorff llywodraethu. (Adran 28 o’r Ddeddf) 

      • plentyn, neu berson ifanc 
      • rhiant y plentyn, neu 
      • gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach 

      RHAID i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai ‘gymryd drosodd’ y cyfrifoldeb am gynnal CDU corff llywodraethu (ysgol neu goleg).  

      Os bydd ysgol neu goleg yn gwneud y cais, RHAID i’r ‘ALl’ hysbysu’r plentyn a’i rieni neu’r person ifanc.  Gall wahodd sylwadau gan y plentyn, y rhiant a’r person ifanc a gofyn am ragor o wybodaeth i’w rhannu gyda hwy. 

      Os bydd rhiant, plentyn neu berson ifanc yn gwneud y cais, RHAID i’r ‘ALl’ hysbysu’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau gan y corff llywodraethu. 

      Gall yr ‘ALl’ benderfynu cymryd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun drosodd os yw’n teimlo y dylid ei ddiwygio (Adran 28(6)).     

      Os bydd hyn yn digwydd RHAID i’r ALl hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, rhiant, a’r corff llywodraethu am ei benderfyniad a’r rhesymau dros unrhyw benderfyniad.   

      Os bydd yn penderfynu ‘cymryd drosodd y cynllun’, bydd y CDU yn dod yn gynllun a gynhelir gan ALl a bydd yr ALl yn gyfrifol am baratoi’r cynllun, sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y cynllun ac adolygu’r cynllun. 

      Mae gan yr ALl 7 wythnos i benderfynu 

      Sut mae ALl yn gofyn am gefnogaeth gan y Gwasanaeth Iechyd?

      Gall awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach: 

      • ofyn i’r gwasanaeth iechyd ystyried a oes triniaeth neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o helpu i fynd i’r afael ag anghenion dysgu ychwanegol y dysgwr 

      Os oes triniaeth neu wasanaeth perthnasol, rhaid i’r gwasanaeth iechyd ei sicrhau (darparu) (Adran 20(5) ac Adran 21(5) o’r Ddeddf). 

      Mae gan yr Awdurdod Iechyd 6 wythnos i ymateb i’r cais. 

      Yn ogystal, lle bo’r Gwasanaeth Iechyd yn credu bod gan blentyn ADY (neu ei bod yn debygol bod ganddo ADY), rhaid iddo ddwyn hyn i sylw’r awdurdod lleol priodol, os yw’n credu bod hynny er pennaf les y plentyn. 

      Bydd y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA), a benodwyd gan y Bwrdd Iechyd, yn gweithio gyda’r ALl i ddatblygu a chydlynu ymyriadau.  

      Gweler hefyd Beth alla i ei ddisgwyl gan y Gwasanaeth Iechyd?   

      Beth os ydw i’n anghytuno â phenderfyniad ‘ALl’ am fy mhlentyn neu berson ifanc?

      Yn y lle cyntaf, dylech ofyn am ailystyriaeth o’r mater gan yr ALl.   

      Dylech egluro pam nad ydych yn fodlon â’r penderfyniad a beth fyddech chi’n hoffi ei weld yn cael ei newid.   

       Os ydych yn teimlo bod rhagor o wybodaeth nad yw wedi cael ei hystyried dylech rannu hyn gyda hwy.  Gallwch ofyn am gael cyfarfod yr awdurdod lleol i drafod eich anghydfod a cheisio datrys unrhyw bryderon. 

      Mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) yn nodi bod yn rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau datrys anghytundebau annibynnol i helpu pan nad yw rhieni neu bobl ifanc yn cytuno â’r awdurdod lleol, ysgolion neu golegau am y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.    

      Mae gwasanaethau datrys anghydfodau yn annibynnol ar yr awdurdod lleol.  Nod y gwasanaethau datrys anghydfodau yw helpu pobl ifanc, rhieni, awdurdodau lleol ac eraill sy’n gyfrifol am wneud darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, i ddod i gytundeb sydd er pennaf les y plentyn neu’r person ifanc.   

      Nid yw defnyddio gwasanaeth datrys anghydfodau yn orfodol ac nid yw’n effeithio ar hawl plentyn, rhiant neu berson ifanc i gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys.  

      Gellir eu defnyddio ochr yn ochr, heb effeithio ar benderfyniad y tribiwnlys.  Mae SNAP Cymru yn darparu’r gwasanaeth hwn ledled Cymru.    

       I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am y gwasanaeth Gweler Datrys Anghydfodau  

       

      Os ydych wedi dewis defnyddio’r broses datrys anghydfodau a’ch bod yn dal yn anfodlon, mae gennych hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.  

       Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol a bydd yn ystyried apeliadau pan fydd rhieni’n anghytuno â phenderfyniadau’r awdurdod lleol am ADY eu plentyn. 

      Mae’r ysgol neu sefydliad addysg bellach eisiau ‘peidio â chynnal’ CDU fy mhlentyn. Alla i ofyn i’r ‘ALl’ ailystyried y penderfyniad hwn?

      Os yw’r ysgol neu’r coleg wedi penderfynu ‘peidio â chynnal’ cynllun (dod â’r cynllun i ben) rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc a rhiant y plentyn ynglŷn â’i hawl i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y mater (Adran 32(2)(3) o’r Ddeddf)   

      Ar ôl i’r plentyn, rhiant neu berson ifanc dderbyn yr hysbysiad bod ei CDU yn dod i ben, bydd ganddo 4 wythnos i ysgrifennu at yr ALl yn gofyn iddo ‘ailystyried penderfyniad yr ysgol’ (Rheoliad 12, Rheoliadau ADY Cymru 2021) 

      Rhaid i’r cais gael ei wneud i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol er mwyn iddo benderfynu a ddylai dyletswydd y corff llywodraethu i gynnal y cynllun ddod i ben ai peidio. 

      Mae gan yr ‘ALl’ 7 wythnos i ailystyried y penderfyniad. 

      Tra mae’r penderfyniad yn cael ei wneud RHAID i’r ysgol neu’r sefydliad addysg bellach ddal i gynnal y CDU. 

      RHAID i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu a’r plentyn, rhiant neu berson ifanc beth yw ei benderfyniad, a’r rheswm dros y penderfyniad. 

      Os bydd yr ALl yn penderfynu y dylai’r cynllun barhau, RHAID i’r corff llywodraethu ddal i gynnal y cynllun (Adran 32 (4) o’r Ddeddf).

      Gall yr ALl hefyd benderfynu na ddylid cynnal y cynllun ac y dylai’r cynllun ddod i ben (Adran 32(4) o’r Ddeddf).

      Os ydych chi, eich plentyn neu’r person ifanc yn anghytuno â phenderfyniad yr ALl, gallwch apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru a gofyn i’r Tribiwnlys benderfynu ynglŷn â’r canlyniad.  

       

      Llythyr templed – gofyn am ailystyriaeth o benderfyniad i beidio â chynnal CDU 

      Gweler Apelio i’r Tribiwnlys Addysg

      Gweler Datrys Anghydfodau SNAP Cymru  

      Gwirfoddoli

      Codi Arian

      Cyfrannwch